Cyn-gadeirydd S4C: 'Dyfodol darlledu cyhoeddus mewn perygl'

Gall dyfodol darlledu cyhoeddus fod mewn perygl meddai Rhodri Williams
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol darlledu cyhoeddus, gan gynnwys darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn perygl yn dilyn ymddiswyddiadau rhai o arweinwyr y BBC yn ôl cyn-gadeirydd S4C.
Fe ymddiswyddodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Tim Davie, a'r Pennaeth Newyddion, Deborah Turness, nos Sul yn dilyn beirniadaeth o bennod o'r rhaglen Panorama, a'r modd y cafodd un o areithiau'r Arlywydd Donald Trump ei golygu.
Dywedodd Rhodri Williams, sydd hefyd yn gyn-gyfarwyddwr OFCOM yng Ngymru, y dylai'r BBC fod wedi ymateb yn gynt ac ymddiheuro i'r Arlywydd Trump "fisoedd lawer yn ôl".
Ond, fe ddisgrifiodd gyhuddiadau arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage - sef bod gan y BBC a chyfarwyddwr BBC Cymru sy'n gyfarwyddwr dros dro ar y cenhedloedd, Rhuanedd Richards, duedd adain chwith - fel rhai "abswrd a chwbl annheg".

Ymddiswyddodd Tim Davie a Deborah Turness o'r BBC nos Sul
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd Mr Williams: "Mae dyfodol y BBC fel corfforaeth dan fygythiad, ond mae'r holl syniad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig hefyd o dan fygythiad."
Ychwanegodd y gallai hyn olygu bod "S4C, gwasanaeth Gaeleg yn yr Alban, a'r darlledwyr cyhoeddus eraill hefyd" mewn perygl.
Y rheswm am hyn, meddai, yw bod rhai yn awr yn cwestiynu dilysrwydd y ffi drwydded.
"Mae rhai o bapurau asgell dde'r Deyrnas Unedig yn defnyddio'r hyn sydd wedi digwydd fan hyn nid i sôn am y BBC yn unig ond hefyd y ffi drwydded," meddai.
"Mae hynny'n codi cwestiynau mawr iawn ynglŷn â gallu'r Llywodraeth y Deyrnas Unedig a phawb sydd yn cefnogi newyddiaduraeth annibynnol y BBC."

Mae'r Arlywydd Trump yn gofyn i'r BBC dynnu'r rhaglen Panorama yn ôl, ymddiheuro, a rhoi iawndal iddo
Dywedodd fod y BBC wedi "achosi problem i'w hunain" drwy fod yn "araf yn ymateb".
"Darlledwyd y rhifyn yma o Panorama ar yr 28 Hydref 2024, dros flwyddyn yn ôl," meddai.
"Gan fod e ar raglen mor arwyddocaol fel Panorama ac yn ymwneud â phwnc sensitif cyn etholiadau America, dylai ymateb wedi dod llawer iawn cyn hyn."
Aeth ymlaen i ddweud pe bai hynny wedi digwydd na fyddai'r BBC "yn y sefyllfa anffodus yma nawr lle mae Donald Trump yn bygwth dwyn achos" yn eu herbyn.
"Dylai'r sefyllfa ddim fod wedi cyrraedd mor bell â hyn."
'Camgymeriadau wedi'u gwneud'
Fe gyhoeddodd y Telegraph fanylion e-bost mewnol.
Roedd yn awgrymu fod y rhaglen wedi golygu dwy ran o araith yr Arlywydd Donald Trump a'i bod yn ymddangos fel bod yr Arlywydd Trump yn uniongyrchol yn annog y terfysg yn Capitol Hill ym mis Ionawr 2021.
Dywedodd Tim Davie bod "camgymeriadau wedi'u gwneud ac fel cyfarwyddwr cyffredinol mae'n rhaid i mi gymryd y cyfrifoldeb eithaf".
Mae arweinwyr gwleidyddol yn y DU yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd yr ymddiswyddiadau'n arwain at newid.
Mae'r Arlywydd Trump wedi croesawu'r penderfyniadau.
Bellach, mae'r Arlywydd Trump wedi bygwth y BBC gydag achos cyfreithiol gwerth $1bn.
Os nad yw'r gorfforaeth yn tynnu'r rhaglen Panorama yn ei hôl, yn ymddiheuro, ac yn rhoi iawndal iddo erbyn 14 Tachwedd mi fydd yn parhau â'r broses.

Mae Nigel Farage wedi beirniadu'r BBC a phenodiad cyfarwyddwr BBC Cymru sydd bellach yn gyfarwyddwr dro ar y cenhedloedd, Rhuanedd Richards
Yn dilyn yr ymddiswyddiadau fe wnaeth arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, roi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd bod y ffaith fod cyn-brif weithredwr Plaid Cymru, Rhuanedd Richards - sydd hefyd wedi gweithio i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol - nawr yn bennaeth dros dro y BBC ar gyfer y cenhedloedd, yn dystiolaeth yn ei farn ef o duedd adain chwith y BBC.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae Rhuanedd Richards wedi gweithio i'r BBC ers 2018 ac yn Gyfarwyddwr BBC Cymru ers 2021. Mae hi'n gyfarwyddwr dros dro ar y cenhedloedd ar hyn o bryd.
"Nid yw Rhuanedd wedi celu ei chefndir proffesiynol ac mae hi'n gwbl ymroddedig i gynnal safonau didueddrwydd y BBC."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl
