Cwestiynu cyngor am eu dyletswyddau cyfreithiol dros addysg Gymraeg

Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr wedi cwestiynu a ydy Cyngor Caerdydd yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas ag addysg Gymraeg y brifddinas.
Mewn adroddiad newydd mae'r cyfreithiwr Keith Bush yn dweud bod gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau bod gan bobl o leiafrifoedd ethnig yr un cyfleoedd â phobl sydd ddim - gan gynnwys mynediad at addysg Gymraeg.
Gyda chanrannau llawer uwch o bobl o leiafrifoedd mewn wardiau yn ne'r brifddinas, mae'n dweud bod "absenoldeb unrhyw dystiolaeth fod y cyngor wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd statudol honno wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â lleoliad ysgolion".
Mae ymgyrchwyr sydd wedi bod yn gofyn am ysgol gyfun Gymraeg newydd yn ne Caerdydd yn dweud bod yr adroddiad yma'n cryfhau eu hachos.
Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor maen nhw'n "parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog".
Beth yw cefndir yr ymgyrch?
Daeth criw o rieni ac unigolion at ei gilydd ar ôl i nifer gael trafferth wrth sicrhau lle i'w plant yn Ysgol Glantaf yn 2024.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i blant Grangetown, Tre-biwt ac ardaloedd cyfagos deithio i Ysgol Glantaf, sy'n ardal Llandaf yn y brifddinas.
Mae'r ddwy ysgol uwchradd Gymraeg arall - Plasmawr a Bro Edern - wedi'u lleoli tua gogledd y ddinas, ac mae'r ymgyrchwyr yn dadlau bod y sefyllfa'n "llesteirio twf addysg Gymraeg yn ne Caerdydd ac yn amddifadu plant yr ardal o fanteision addysg o'r fath".
Arweiniodd hyn at ymgyrch i geisio sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne'r ddinas.
Yn rhan o'u hymgyrch fe ofynnon nhw i Mr Bush edrych ar y sefyllfa a llunio adroddiad o'i ganfyddiadau.

Mae ymgyrchwyr wedi protestio y tu allan i Neuadd y Sir, Caerdydd
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd Mr Bush ei fod am "herio'r syniad bod rhaid edrych am 'angen' i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg arall".
Dywedodd bod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, dolen allanol "sydd newydd gael ei phasio gan Senedd Cymru yn mynnu bod twf yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy Gymru gyfan".
Mae'n pwysleisio bod disgwyl i gynghorau gynllunio i dyfu'r Gymraeg, ac na ddylen nhw aros tan fod angen, neu alw, am ysgolion newydd.
"O'r ochr gyfreithiol mae'n rhan o'r ddeddf", meddai, ac felly mae'n rhaid i gynghorau "gynllunio'n rhagweithiol i dyfu'r Gymraeg".
'Fel petai dim sylw i gydraddoldeb'
Ond, wrth edrych i mewn i'r mater dywedodd mai'r hyn wnaeth ei synnu oedd "bod yr agwedd o gydraddoldeb ddim fel petai wedi cael unrhyw sylw gan gyngor y ddinas".
Esboniodd bod "pob cyngor lleol o dan ddyletswydd statudol i hybu cydraddoldeb rhwng gwahanol grwpiau megis rhai sydd yn dod o leiafrifoedd ethnig".
"Mae'r ardaloedd yng Nghaerdydd sydd â'r dwysedd uchaf o bobl sydd yn dod o gefndiroedd felly yn ne Caerdydd - nid yn y gogledd - ac oherwydd hynny dyw e ddim fel petai darpariaeth ar hyn o bryd yn adlewyrchu'r angen i sicrhau manteision addysg uwchradd Cymraeg i'r rhai sydd yn dod o gefndiroedd lleiafrifol," meddai.
Yn ei adroddiad mae Mr Bush yn nodi'r canrannau o leiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd yn ôl wardiau etholiadol. Y canrannau uchaf yw:
Ward Trelluest [Grangetown] - 46%
Ward Waunadda [Adamsdown] - 41%
Tre-biwt [Butetown] - 40%
Glanyrafon [Riverside] - 36%
Plasnewydd - 28%
Wrth edrych at y dyfodol, dywedodd Mr Bush y bydd gallu "defnyddio'r Gymraeg ac i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn gymhwyster hanfodol yn fy marn i mwy a mwy drwy Gymru".
Ychwanegodd fod "angen i bobl ddechrau sylweddoli bod amddifadu pobl o addysg uwchradd Cymraeg, neu addysg Gymraeg yn gyffredinol, yn mynd i gael problemau economaidd, materol, galwedigaethol arnyn nhw yn y Gymru sydd ohoni".
"A fedrwch chi ddim dweud 'wel does ganddoch chi ddim yr angen i gael y fantais hon'.
"Mae angen newid sylfaenol i sut mae pobl yn meddwl am y cwestiwn yma", meddai
Mae ei adroddiad hefyd yn dweud mai nid pellter yr ysgolion yw'r unig broblem, ond y ffaith bod llefydd yn cael eu rhoi yn seiliedig ar bellter eu cartrefi o'r ysgol.
Mae Mr Bush yn galw ar y cyngor felly i ailystyried hyn hefyd a cheisio "sicrhau tegwch strwythurol".
'Dylai bod addysg Gymraeg yn hawdd i gyrraedd'
Mewn datganiad, dywedodd y grŵp ymgyrchu fod "llawer o deuluoedd o leiafrifoedd ethnig yn Grangetown, Tre-biwt, ac ardaloedd eraill o dde Caerdydd yn cael eu hamddifadu o addysg uwchradd Cymraeg oherwydd bod ysgolion uwchradd Cymraeg Caerdydd wedi'u lleoli i'r gogledd yn y ddinas".
Maen nhw o'r farn fod "angen i Gyngor Caerdydd gydymffurfio gyda dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus sydd yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010".
De Caerdydd: Galw am addysg Gymraeg ar 'stepen y drws'
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
Siom nad oes lle i draean plant Hamadryad yng Nglantaf
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2024
Galw am bedwaredd ysgol gyfun Gymraeg yn ne Caerdydd
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, wedi ymrwymo i gyflwyno papur cabinet i'r cyngor erbyn y Nadolig yn manylu ar y camau nesaf o ran addysg Gymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo manteision addysg ddwyieithog" ac y bydd yn "blaenoriaethu'r ystod eang o ymrwymiadau a nodir yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg... a fydd yn gwneud pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ymarferol, yn enwedig o ystyried y gwymp bresennol yn y gyfradd genedigaethau".
"Yn 2012 sefydlwyd trydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i gefnogi twf y Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae nifer y dysgwyr mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu 57% yn ystod y cyfnod, o 2,328 i 3,650.
"O ganlyniad, mae digon o lefydd ar gael yn y tymor canolig yn nhair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd i gefnogi unrhyw ddisgyblion sydd eisiau dysgu drwy'r Gymraeg.
"Mae addysg Gymraeg ar gyfer pob cymuned yng Nghaerdydd ac mae cynnydd wedi bod yn nifer y dysgwyr o leiafrifoedd ethnig sy'n mynychu ysgolion Cymraeg.
"Mae'r cyngor yn croesawu anogaeth yr ymgyrch ar y mater hwn, a byddai'n awyddus i drafod rhai o'r heriau ymarferol sy'n bodoli yn y byrdymor, a sut y gellid eu goresgyn gyda'n gilydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.