Gwasanaeth i gofio Blitz Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sul i nodi 75 mlynedd ers noson waetha'r Blitz yng Nghaerdydd.
Cafodd y gadeirlan ei difrodi'n sylweddol yn yr ymosodiadau ar 2 Ionawr 1941 ac mae gardd goffa ar dir yr eglwys i gofio'r rhai fu farw.
Cafodd dros 150 o bobl eu lladd wrth i tua 100 o fomiau ddisgyn o'r awyr rhwng 18:30 ar 2 Ionawr a 06:00 y bore canlynol.
Cafodd 110 o dai eu dinistrio'n llwyr, a bu'n rhaid dymchwel 258 o ganlyniad i'r bomio.
Ar un adeg, roedd 6,000 o bobl yn cael lloches mewn 32 o ganolfannau ar draws y ddinas.
Dywedodd Deon yr Eglwys Gadeiriol, Gerwyn Capon fod y gwasanaeth yn gyfle i ni gofio'r noson ofnadwy honno yng Nghaerdydd pan gollodd cymaint o bobl eu bywydau a'u cartrefi, a phan gafodd yr eglwys gadeiriol ei difrodi.
"Bydd hefyd yn wasanaeth o gymod, pan fyddwn ni'n gweddïo am heddwch a therfyn i bob gwrthdaro."