O blaid canolfan gelfyddydau newydd i Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor craffu wedi cymeradwyo cynlluniau i godi canolfan gelfyddydau newydd ar gost o £4.5m a hynny ym mhrif farchnad dan do Wrecsam.
Dywedodd y cyngor y byddai Oriel Gelfyddydau yn trawsnewid Marchnad y Bobl ac yn denu mwy o bobl i ganol y dref.
Ond roedd adroddiad swyddogion wedi rhagweld y bydd y ganolfan yn gwneud colled o bron i £400,000 am y tair blynedd cyntaf.
Mae ffigyrau'r adroddiad yn tybio y bydd ymddiriedolaeth annibynnol yn cael ei sefydlu gan y cyngor i reoli'r ganolfan newydd.
Yr un ymddiriedolaeth fydd yn gyfrifol am lyfrgell, amgueddfa a gwasanaeth archif y sir.
Cymorthdal
Os yw'r cyngor llawn yn cymeradwyo'r cynllun fe fydd yn gwneud cais am gymhorthdal o £2.3m gan Gyngor y Celfyddydau.
Fe fyddai'r cyngor yn cyfrannu £1,563,500 gyda £700,000 yn dod o Lywodraeth Cymru.
Fe allai'r gwaith adeiladau ddechrau yn Ionawr 2017 a'i gwblhau o fewn 12 mis.
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen canolfan o'r fath ond eu bod yn amheus o'r lleoliad newydd.
Ac mae rhai o stondinwyr Marchnad y Bobl hefyd wedi mynegi pryder am y cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2015