Marwolaeth mab: Teulu o'r Barri eisiau adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad

Mae teulu dyn o'r Barri, oedd wedi ei lofruddio gan ddyn oedd dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf, wedi dweud eu bod eisiau gweld adroddiad llawn yn ymwneud â'r cyfnod cyn ei farwolaeth.

Cafodd Conner Marshall ei guro i farwolaeth gan David Braddon mewn parc carafanau ym Mhorthcawl y llynedd.

Mae Adolygiad Pellach i Drosedd Ddifrifol wedi dechrau sy'n ymchwilio i swyddogion y Gwasanaeth Prawf oedd yn gyfrifol am Braddon pan ddigwyddodd y llofruddiaeth.

Mae crynodeb o'r adroddiad yn awgrymu nad y swyddogion oedd yn gyfrifol am yr hyn wnaeth Braddon.

Ond mae teulu Conner Marshall - roddodd y grynodeb i BBC Cymru - wedi dechrau deiseb yn galw am weld yr adroddiad llawn.

'Dim modd rhagweld'

Pan ddigwyddodd y llofruddiaeth, roedd Braddon dan oruchwyliaeth swyddogion prawf oherwydd troseddau eraill yn ymwneud â chyffuriau ac ymosod ar heddwas.

Yn ôl yr adroddiad, gafodd ei lunio gan y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Prydeinig, ni fyddai'r swyddogion prawf wedi gwybod y byddai Braddon yn cyflawni trosedd mor dreisgar.

"Oherwydd y rhwystrau wrth reoli troseddwyr sy'n cael gorchmynion cymunedol, nid oedd unrhyw beth y byddai'r rheolwr troseddwyr wedi gallu ei wneud fyddai wedi rhagweld neu atal y drosedd," meddai'r adroddiad.

"Mae'n glir o'r adolygiad na allai unrhyw un wedi rhagweld y byddai David Braddon yn mynd ymlaen i gwblhau trosedd mor ddinistriol.

"Pan mae troseddwr yn cael ei oruchwylio yn y gymuned, nid yw'n bosib cael gwared ar bob risg."

Mae'r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad, gan gynnwys:

  • Gwella'r ffordd y mae adroddiadau cyn dedfrydu yn cael eu hysgrifennu;

  • Gwella'r ffordd y mae rheolwyr Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn goruchwylio staff ac yn rheoli risg;

  • Gwella'r cyfathrebu rhwng gweithwyr prawf er mwyn sicrhau cysondeb.