'Angen 500 o deuluoedd maeth newydd,' medd elusen
- Cyhoeddwyd
Mae angen 500 o deuluoedd maeth newydd yng Nghymru yn ystod 2016, yn ôl elusen faethu.
Dywedodd Y Rhwydwaith Maethu fod angen dros 9,000 o deuluoedd maeth yn y DU dros y flwyddyn nesaf i roi cartref ac "amgylchedd teuluol cynhaliol" i blant.
Maen nhw wedi pwysleisio bod angen brys am fwy o deuluoedd maeth i bobl ifanc yn eu harddegau, plant anabl ac i grwpiau o frodyr a chwiorydd.
Dywedodd yr elusen y byddai plant heb fwy o deuluoedd maeth yn gorfod byw ymhell o'u teulu, eu hysgol a'u ffrindiau, neu wynebu cael eu gwahanu o'u brodyr a chwiorydd.
Mae ffigyrau yn dangos bod 40% o bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi'u maethu yn byw gyda'u trydydd teulu maeth ers iddyn angen gofal a bod 5% yn byw gydag o leiaf eu 10fed teulu mewn gofal maeth.
'Cymwynas i gymdeithas'
Dywedodd Kevin Williams, Prif Weithredwr Y Rhwydwaith Maethu: "Mae gofalwyr maeth yn cyflawni dyletswydd anhepgor ar ran y wladwriaeth, dyletswydd sy'n wirioneddol wasanaethu'r gymuned gyfan yng Nghymru.
"Mae'u gwaith yn cyfrannu nid yn unig at gymdeithas yn awr ond hefyd yn y degawdau nesa wrth i'r bobl ifanc sy'n byw o dan eu gofal dyfu'n annibynnol ac yn eu tro yn dod yn oedolion positif sy'n cyfrannu at gymdeithas.
"Drwy recriwtio mwy o deuluoedd maethu, gallwn ddarparu'r dewis eang o deuluoedd maeth potensial sydd eu hangen fel y caiff pob plentyn y cyfle gorau o gael ei baru â gofalwr maeth all ddiwallu'i anghenion y tro cynta."