Beth yw hanes y Cynulliad?
- Cyhoeddwyd
Ym mis Medi 1997 fe bleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm ar ddatganoli.
Y cwestiwn oedd a ddylid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.
Y bleidlais IE enillodd y dydd, ond roedd hi'n agos - 50.3% i 49.7%.
Ond wedi i'r Cynulliad gael ei sefydlu, ni chafodd y sefydliad y grym i greu deddfau tan 2006.
Er y ddeddf yma, roedd yn rhaid cael sêl bendith Aelodau Seneddol yn San Steffan i ddeddfu mewn rhai meysydd ac mi achosodd hyn dipyn o gecru'r ddau ben i'r M4.
Ym mis Mawrth 2011, fe gafodd etholwyr Cymru'r cyfle i fwrw eu pleidlais eto mewn refferendwm arall- y tro hwn i benderfynu a ddylid ymestyn pwerau deddfu i 20 o feysydd gwahanol.
Doedd hi ddim mor agos yn yr achos yma! IE oedd yr ateb mewn 21 o'r 22 cyngor lleol. Ond roedd hyn yn golygu nad oedd yn rhaid i'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd fynd ar ofyn gwleidyddion Llundain o hyn allan.
Y drefn etholiadol
60 o Aelodau Cynulliad sy'n eistedd yn y Cynulliad. Maen nhw'n cael eu hethol drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae hyn yn golygu bod gan bawb sy'n pleidleisio ddwy bleidlais, un i ethol cynrychiolydd ar gyfer yr etholaeth a'r llall i ddewis plaid ar lefel ranbarthol.
Felly mae 40 o ACau yn cael eu hethol yn uniongyrchol drwy'r system 'cyntaf i'r felin', i etholaethau sy'n cyfateb i rai San Steffan.
Mae'r 20 arall yn cael eu hethol o bum etholaeth ranbarthol er mwyn sicrhau bod y canlyniad ychydig yn fwy cynrychioladol.
Amserlen
Bob pedair blynedd mae etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn cael eu cynnal hyd yma, gyda'r diwetha' yn 2011. Ond mae etholiad 2016 yn golygu y bydd tymor y Cynulliad presennol wedi bod yn bum mlynedd yn hytrach na phedair oherwydd yr etholiad cyffredinol yn 2015.
O hyn ymlaen fe fydd etholiadau'r Cynulliad yn cael eu cynnal bob pum mlynedd o dan Deddf Cymru 2014, a hynny er mwyn osgoi eu cynnal yr un flwyddyn ag etholiad cyffredinol.
Llafur gafodd y mwyafrif o seddi yn 2011, sef 30, a nhw sy'n llywodraethu gyda llywodraeth leiafrifol.
Enwau'r Cynulliad
Carwyn Jones yw'r arweinydd a fo ydy Prif Weinidog Cymru. Rhodri Morgan, hefyd o'r blaid Lafur, oedd y prif weinidog cyntaf.
Y Ceidwadwyr yw'r brif wrthblaid am mai nhw yw'r ail blaid fwyaf yn y Cynulliad.
Mae saith o weinidogion yn rhan o gabinet Carwyn Jones ac yn arwain ar feysydd sydd wedi'u datganoli, fel iechyd ac addysg.
Craffu ar benderfyniadau a pholisïau gweinidogion mae gweddill yr ACau. Mae'r gwrthbleidiau - sef y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - yn gallu ceisio dylanwadu ar bolisiau'r llywodraeth.
Y Llywydd Rosemary Butler, sy'n AC Llafur, sy'n cadeirio'r Cynulliad.