Rhoi wyneb i'r sêr

  • Cyhoeddwyd
Di Caprio

Mae Cymraes o Gaerdydd wedi cael ei henwebu ar gyfer un o brif anrhydeddau byd y ffilmiau - Oscar.

Mae Siân Grigg wedi ei henwebu am y Colur a'r Gwallt gorau am 'The Revenant', ffilm ddiweddara' Leonardo DiCaprio. Mae hi hefyd wedi ei henwebu am BAFTA yn yr un categori.

Mae Siân wedi gweithio fel artist coluro personol i DiCaprio ar sawl ffilm gan gynnwys Titanic a J Edgar. Wrth dderbyn gwobr yr Actor Gorau yn seremoni'r Golden Globes eleni fe ddiolchodd yr actor i Siân am ei "hathrylith".

Cafodd Cymru Fyw air gyda Siân am ei gyrfa ddisglair ymhlith y sêr:

Sut brofiad ydi gweithio ym myd y ffimiau?

Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i weithio ar rai ffilmiau cofiadwy iawn yn ystod fy ngyrfa hyd yma. Roedd rhai ohonyn nhw'n lot o hwyl fel 'The Muppets Christmas Carol'.

Roedd gweithio gyda'r muppets yn gymaint o hwyl, llawer o jocian a malu awyr ar y set, ac erbyn diwedd y ffilmio roeddwn i hyd yn oed yn siarad gyda'r muppets yn hytrach na'r pypedwyr!

Dwi hefyd wedi gweithio ar ffilmiau pwysig fel 'Saving Private Ryan' a 'Suffragette'. Mi wnes i ddysgu am gyfnodau pwysig mewn hanes a helpu i wneud y stori yn fwy perthnasol i'r gynulleidfa.

Yna mae rhai sgriptiau gwahanol fel 'Shutter Island' ac 'Ex Machina' - ro'n i'n gwybod fy mod i'n mynd i weithio ar rywbeth arbennig a gwreiddiol.

Wrth gwrs bydd 'Titanic' wastad yn aros yn y cof fel y ffilm wnaeth newid fy mywyd.

Ac roedd hi'n golygu naw mis o waith caled, doedd Mecsico ddim mor glamorous â'r hyn roedd e'n swnio!

Ffynhonnell y llun, Sian Grigg

Sut wnes di ddechrau yn y maes a beth oedd dy her gyntaf?

Roedd gen i athro celf hyfryd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Mr Anthony Evans. Fe wnaeth e fy annog a rhoi help mawr i mi gael fy nerbyn ar y cwrs Sylfaen yng Ngholeg Celf Caerdydd.

Fe wnes i sylweddoli'n gyflym ei bod hi'n well gen i baentio wynebau yn hytrach na chynfas, oedd ddim yn siarad gyda chi.

Wedyn fe es i i Goleg Ffasiwn Llundain a chael HND mewn Astudiaethau Theatr yn arbenigo mewn colur. Roedd yr hyfforddiant yn wych.

Pan ro'n i yno ro'n i'n ddigon lwcus i gael ychydig o brofiad gwaith ar y ffilm 'Howard's End' gyda Anthony Hopkins, Emma Thompson a Helena Bonham Carter.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd profiad gwaith ar ffilm 'Howard's End' gyda Anthony Hopkins a Helena Bonham Carter yn ysgogiad mawr i Siân wrth ddatblygu ei gyrfa

Roedd sawl diwrnod lle roedd llwythi o bobl yno ac fe ges i'r cyfle i gwrdd â nifer o artistiaid colur a gwallt anhygoel. Wedi hynny fues i'n ffodus a chael gwaith yn eitha' cyson.

Mae gen i ddyslecsia, rhywbeth wnaeth olygu bod ysgol, i mi, yn gallu bod yn anodd ar adegau.

Er hynny roedd rhaid i mi weithio'n galetach na fy ffrindiau er mwyn gwneud hanner cystal â nhw, a dwi'n credu i hynny roi seiliau cadarn i mi ym myd gwaith.

Ro'n i'n gyfarwydd â gorfod gweithio'n galetach na phawb arall, ac roeddwn i'n eitha hapus i wneud hynny ac i wneud y gwaith doedd neb arall eisiau ei wneud, fel glanhau a chasglu pinau o'r llawr, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael paned.

Elli di roi enghraifft i ni o dy waith fel cynllunydd colur ar ffilm?

Mae 'na lawer mwy i gynllunio colur a gwallt ar gyfer ffilm na mae'r rhan fwya' o bobl yn ei sylweddoli. Mae'n rhaid i chi ddechrau gyda'r sgript, yna ymchwilio i'r pwnc, y cyfnod, neu i'r dylanwadau arbennig y mae'r cyfarwyddwr eisiau eu cyfleu yn y ffilm.

Mae hi wastad yn cymryd ychydig o amser i mi benderfynu ar edrychiad y ffilm, weithiau greddf sy'n bwysig a gwybod a deall y byd y mae'r cyfarwyddwr yn ceisio'i greu, a hefyd cymeriad yr actor dan sylw.

Pan r'ych chi'n darllen sgript dydych chi ddim wastad yn cael yr un teimlad am y cymeriad a 'falle wneith yr actor ei gael. Dyna pam ei bod hi'n bwysig i chi fod â meddwl agored am y cymeriad.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrfa Siân wedi mynd o nerth i nerth ers iddi hi weithio ar set 'Titanic' yn Mecsico

Y flaenoriaeth bob amser yw sicrhau bod yr actor yn teimlo'n gyfforddus gan bod rhaid i'r actorion neu actoresau deimlo'n hyderus o flaen y camera ac unrhywbeth alla i wneud i'w helpu nhw i deimlo natur eu cymeriad.

Wedyn mae'n rhaid didoli'r sgript yn olygfeydd a sicrhau bod yna ddilyniant i bob golygfa a chymeriad, er enghraifft os yw'r cymeriad yn rhedeg mewn un golygfa ond nad ydych chi'n ffilmio golygfa nesa'r cymeriad am fis, chi'n gwybod bod yn rhaid i'r actor edrych yn chwyslyd ac yn flêr ei olwg yn yr olygfa ymhen y mis.

Rwyt ti wedi gweithio gyda nifer fawr o sêr - sut wyt ti'n delio gyda rhai o'r personoliaethau mawr?

Dwi wastad yn mwynhau cydweithio gydag actorion ac mae'n hyfryd pan fy mod i wedi gweithio gyda nhw sawl gwaith.

Dyna natur y diwydiant ffilm gan ei fod mewn gwirionedd yn eitha' bach, a phan fy mod i wedi meithrin perthynas â'r actorion mae'n ei gwneud hi'n llawer haws iddyn nhw ymddiried ynof i.

Mae actorion mor ddewr a gwallgof! Allen i fyth wneud eu swydd nhw, bydde'n codi ofn arna i.

Rhan fawr o fy ngwaith i ydi gwneud iddyn nhw deimlo'n hapus gyda'u cymeriad fel eu bod yn teimlo'n dda ac yn hyderus o flaen y camera.

A beth am yr her nesa? Ry'n ni'n deall dy fod ar fin cynllunio colur ar gyfer y ffilm fawr gynta' o Stiwdio Pinewood yng Nghymru?

Fe symudais i nôl i Gaerdydd chwe blynedd yn ôl ar ôl i mi sylweddoli fy mod i wastad i ffwrdd ar leoliad ac felly doedd dim llawer o bwynt aros yn Llundain.

Dwi'n gobeithio y bydd Pinewood Studio Wales yn llwyddiant ysgubol ac y bydda' i'n cael llawer mwy o waith yng Nghymru.

Er fy mod i wedi gweithio mewn nifer o wledydd rhyfeddol, Cymru fydd wastad fy nghartref. Mae'n anodd curo Cymru.

Ffynhonnell y llun, Sian Grigg
Disgrifiad o’r llun,

Siân wrth ei gwaith ar 'Far From The Madding Crowd' (2015)

(Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi am y tro cyntaf gan Cymru Fyw ym mis Mehefin 2015)