Ateb y Galw: Jonathan Davies
- Cyhoeddwyd
Y sylwebydd rygbi a chyn-gapten Cymru Jonathan Davies, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Iwan Roberts.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd lawr i Langennydd gyda mam a dad pan o'n i'n grwt ifanc.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Karen Hughes yn Ysgol y Gwendraeth. Digwydd bod mae nai Karen, Steffan, yn chwarae i'r Scarlets nawr.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Yn ystod gêm ryngwladol rhywdro ro'n i ishe mynd i'r tŷ bach. Yn yr huddle hanner amser es i lawr ar un benglin a dechra gwneud, ac yna cododd y bois a gadael fi yna ar fy nghwrcwd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Unrhyw adeg pan fo'r plant yn gwneud rhywbeth i fy ngwneud i'n prowd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta'n rhy gloi a pigo fy ewinedd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar lan y môr rhywle ar y Gŵyr - perffaith o le.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi'n lwcus i gael llawer o nosweithiau cofiadwy, ond y rhai mwya' arbennig i fi yw pan dwi efo fy ffrindie a theulu a joio cwpl o beints ac ymlacio.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Ffyddlon, neis a chyfeillgar.
Beth yw dy hoff lyfr?
Rwy'n darllen lot, ac yn mwynhau llyfrau James Patterson. Rwy' hefyd yn mwynhau hunangofiannau - yn ddiweddar rhai Mike Tyson ac Andre Agassi.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Es i weld 'Daddy's Home' gyda Will Ferrell a Mark Wahlberg efo'r ferch - roedd e'n eitha da. A nes i weld 'Spectre' cyn y Nadolig hefyd.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Yn ifanc Leonardo DiCaprio, ond dyddiau 'ma Robert De Niro.
Dy hoff albwm?
Unrhywbeth gan Coldplay.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Prif gwrs: cinio dydd Sul, cyw iâr neu cig eidion
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Rory McIlroy - dwlen i gael ei sgiliau fe gyda'r clubs.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Tom Shanklin