Traethau Gwynedd: Dim baner las?
- Cyhoeddwyd
Mae posibilrwydd na fydd yna faner las ar rai o draethau Gwynedd dros yr haf gan nad ydi cynghorau tref yn fodlon talu i wneud cais am y faner.
Cyngor Gwynedd oedd yn arfer talu am y ceisiadau ond oherwydd toriadau ariannol maen nhw'n gofyn i'r cynghorau tref a chymuned dalu eleni.
Mae ffî o £750 i wneud cais ar gyfer y cynllun, sy'n profi fod dŵr y traeth yn cyrraedd safon Ewropeaidd.
Mae'r Post Cyntaf yn deall fod Cyngor Tref Cricieth wedi penderfynu peidio gwneud cais am faneri glas ar gyfer y ddau draeth yn y dre' am nad ydi hynny'n flaenoriaeth.
'Mwy o doriadau'
Dywedodd y cynghorydd tref, Phillip Jones: "Y broblem ydi'n bod ni'n meddwl fod 'na fwy o doriadau ar y ffordd gan Gyngor Gwynedd.
"Wrth gwrs, 'dan ni i gyd yn gwybod am y sefyllfa ariannol sydd 'na ar y funud ac mae cynghorau tref a chymuned i gyd wedi cael rhybudd y bydd 'na doriadau eraill.
"'Dan ni eisiau gwybod beth fydd y toriadau eraill a beth fydd disgwyl i gynghorau tref a chymuned gyfrannu tuag ato yn y dyfodol."
'Cydbwysedd'
Dywedodd Mr Jones fod y baneri ddim yn flaenoriaeth i'r dref, er bod rhai busnesau Cricieth yn dibynnu ar dwristiaeth.
"Mae'r baneri glas ar gyfer ymwelwyr fwy na ddim byd'," meddai. "Nhw sy'n sylwi os oes 'na faner las neu felyn ar y traethau.
"Fe wnaethon ni gymryd [y ffaith fod busnesau'n dibynnu ar ymwelwyr] i fewn i ystyriaeth.
"Cydbwysedd ydi o i gyd - ystyried faint mae'n bres 'dan ni'n gallu fforddio'i wario ar faneri glas, a faint o bobl sy'n cymeryd sylw ohonyn nhw."
Mae 'na anfodlonrwydd am y mater ym Mhorthmadog hefyd.
Mae'r cynghorydd sir, Jason Humphries, yn credu ei bod hi'n "annheg" fod disgwyl i Gyngor Tref Porthmadog dalu am y faner ar Draeth y Greigddu ym Morfa Bychan, gan mai Cyngor Gwynedd sy'n derbyn incwm o'r traeth.
"Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Gwynedd elw o £60,000 o'r Greigddu drwy godi ffî o £5 y cerbyd - hynny gan ymwelwyr, pobl y dre' a hyd yn oed pobl anabl," meddai.
"Does 'na ddim ceiniog o'r elw yma'n mynd i goffrau Cyngor Tref Porthmadog, mae o'n mynd i drysorlys y sir.
"Felly, mae'n hollol afresymol i'r cyngor sir ofyn i bobl Porthmadog dalu...."
'Anorfod'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod yr heriau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu yn golygu fod newidiadau'n "anorfod" ac na all y cyngor ysgwyddo'r baich heb gydweithio â sefydliadau eraill.
Fe ychwanegodd eu bod yn gofyn i gynghorau tref a chymunedau gyfrannu at gostau gwneud cais am y baneri, ond eu bod yn parhau i gynnal a chadw'r traethau.
Yn achos Traeth y Greigddu ym Morfa Bychan, dywedodd y llefarydd fod y cyngor sir yn gwneud elw ond fod yna gostau rheoli'r safle.