Cofio'r 70au?
- Cyhoeddwyd
Cymru'n gwrthod datganoli, dechrau'r ymgyrch llosgi tai haf a Margaret Thatcher yn camu dros drothwy 10 Downing Street am y tro cyntaf. 1979 oedd hi ac yn benllanw ar ddegawd o newid mawr.
Hon fydd y flwyddyn dan sylw yn Cofio bnawn Sul, 17 Ionawr ar BBC Radio Cymru, un o rifynnau'r archif i nodi pen-blwydd y rhaglen yn 10 oed. Faint 'dych chi'n ei gofio am y 70au? Mae Cymru Fyw yma i brocio'r cof!:

Hysbyseb cyfrifiadur cynnar

Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn ymddangos ar 'Frost in America' yn 1970

Oeddech chi ymhlith y rhai syrthiodd oddi ar y Chopper?

Caryl Parry Jones yn edrych yn ddiniwed iawn

Camera teledu lliw y BBC yn 1972

Ogi! Ogi! Ogi! Max Boyce yn paratoi i fynd ar y llwyfan

'Fo a Fe' oedd un o gyfresi mwyaf poblogaidd y cyfnod

Roedd hwn yn cael ei ystyried yn ffôn clyfar yn y 70au

Dyw Shirley Bassey ddim wedi newid llawer

Roedd gan gynllunwyr dillad y 70au fflêr am ffasiwn

Sawl un ohonoch chi oedd yn gallu chwarae tiwns ar y stylophone?

Roedd y Space Hopper yn gwerthu yn eu miloedd

Pwy wnaeth grio oherwydd bod rhywun wedi sathru ar un o bêl-droedwyr Subbuteo?

Be'? Dim ond tair sianel?!

Mici Plwm a'i ddisgo teithiol

Ford Capri, car eich breuddwydion o 1972?

Roedd y ddau yma ar y teledu drwy'r amser!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi weld cerbydau ar Heol y Frenhines, Caerdydd?