Gwerthu dwy gronfa ddŵr yng Nghaerdydd wedi brwydr hir
- Cyhoeddwyd
Mae cwmnïau wedi dod i gytundeb yn dilyn brwydr hir ynghylch dyfodol dwy gronfa ddŵr yng Nghaerdydd.
Bellach, mae Dŵr Cymru wedi prynu cronfeydd Llysfaen a Llanisien gan gwmni Celsa UK .
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn ymladd yn erbyn cynlluniau i ddatblygu'r safle byth ers i'r cyn berchnogion, Western Power Distribution, gyflwyno cynlluniau ar gyfer 300 o gartrefi yn yr ardal.
Dywedodd cadeirydd y 'Grŵp Gweithredu Cronfa Ddŵr' - Richard Cowie, fod y gymuned yn "hynod falch".
"Rwy'n credu y bydd hyn yn golygu llawer iawn i'r gymuned, mae wedi bod yn broblem fawr ers 2001," meddai.
"Roedd y fan yma yn ardal brydferth cyn i Western Power ddod a chodi'r holl ffensys a chau pob mynediad i'r cyhoedd.
Mae AC Canol De Cymru, Andrew RT Davies wedi croesawu'r newyddion: "Mae trigolion lleol ac ymgyrchwyr wedi siarad gydag un llais ar y mater hwn, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio .
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: " Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd hamdden ar ein safleoedd cronfeydd dŵr, ac maent yn awyddus i edrych ar y posibiliadau sydd ar gael yma.
"Fodd bynnag, gan fod y safle wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers peth amser, mae angen cynnal ymchwiliadau manwl ar y safle cyn y gallwn wneud unrhyw ymrwymiadau cadarn ar yr hyn y gellid ei gynnig ar y safle . "