Galwadau niwsans o Abertawe yn 'broblem'

  • Cyhoeddwyd
Dyn ar y ffôn

Mae pennaeth adran safonau masnach Cyngor Abertawe wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw fod nifer y galwadau niwsans o rai canolfannau galwadau yn ardal Abertawe yn broblem, o ystyried nifer y cwynion y mae ei adran yn ei dderbyn.

Mae'r galwadau dan sylw yn camwerthu nwyddau i gwsmeriaid.

Roedd David Picken yn siarad yn dilyn achos cwmni o'r ddinas oedd wedi gwneud bron i 40 miliwn o alwadau niwsans mewn cyfnod o dri mis.

Collodd Falcon & Pointer Cyf. ei drwydded fasnachu ar ôl defnyddio technoleg deialu awtomatig i gysylltu â phobl ynghylch ag yswiriant amddiffyn taliadau (PPI) oedd wedi'i gamwerthu.

Wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd Mr Picken: "Dros ardal Abertawe mae ein hawdurdodaeth ond fe fyddwn ni'n derbyn cwynion o ar hyd a lled y Deyrnas Unedig o achos natur y busnes.

"Mae'r gwaith yr ydyn ni'n ei wneud yn ymwneud â busnesau sydd wedi bod yn gweithredu o ffiniau Cyngor Abertawe, ond rydyn ni wedi gallu cael cymorth ar ffurf asiantaethau fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder, neu gan awdurdodau lleol eraill lle mae cwsmeriaid o fewn eu hardaloedd wedi cael eu dal gan ba bynnag weithred y bo.

"Fe fydd y cwynion am bethau yn ymwneud â'r diwydiant gwasanaethau ac fe fydden nhw'n ymwneud â phethau fel yswiriant amddiffyn taliadau, yswiriant ffonau symudol neu, mewn un achos o bwys ddaeth i ben dro yn ôl, oedd yn ymwneud â gwerthu yswiriant ffug ar gyfer lloerenau teledu. Byddai'r rhai mwyaf diweddar yn ymwneud â thaliadau amddiffyn morgeisi, neu gostau yn honni y byddai'r cwmnïau'n hawlio taliadau am filiau ar eich cyfer.

"Dyna'r mathau o bethau ac maen nhw'n dod aton ni, ac fe fyddwn yn deilio gyda rhain lle mae 'na nifer fawr o gwynion, ac mae'r nifer yna'n awgrymu'n glir fod 'na broblem."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Picken fod nifer y cwynion yn "awgrymu'n glir" fod yna broblem

Cwmnïau lleol

Mae cwmni Falcon & Pointer Cyf. yn un o nifer o gwmnïau yn ardal Abertawe sydd wedi eu herlyn am gamwerthu yn ddiweddar.

Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth dau ddyn lleol bledio'n euog i redeg cwmni rheoli ceisiadau ffug yn y ddinas.

Roedd y dynion yn rhedeg cwmni Nationwide Review Service Cyf., oedd yn galw cwsmeriaid yn ddirybudd gan ddweud wrthyn nhw fod lle i hawlio ad-daliad ar ffioedd eu cyfrifon banc, ond ni wnaeth y cwmni ddarparu'r gwasanaeth oedd wedi ei addo.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd David Govier, cyfarwyddwr cwmni Get Green Today Cyf. o Abertawe, ei garcharu am ei ran mewn cynllun galwadau dirybudd oedd yn targedu pobl fregus a'r henoed.

Yn ystod yr un mis, cafodd cwmni Oxygen Cyf., hefyd o Abertawe, ddirwy o £120,000 am wneud dros filiwn o alwadau mewn mis, ac yn Hydref 2015, cafodd cwmni Help Direct UK Cyf. o Abertawe ddirwy o £200,000 am anfon miloedd o negeseuon testun spam.

Ym mis Mehefin 2015, cafodd tri chyfarwyddwr cwmni Consortium Technology Cyf. o Abertawe eu gwahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmniau am gyfnod o 26 o flynyddoedd ar y cyd, ar ôl camarwain y cyhoedd i dalu £12 miliwn am wasanaethau i ostwng dyledion cardiau credyd.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i gwmnïau arddangos eu rhifau ar sgrîn y ffôn yn y dyfodol

Technoleg

Fe ddefnyddiodd Falcon & Pointer Cyf. dechnoleg deialu awtomatig i wneud miliynau o alwadau mewn 12 wythnos am daliadau PPI oedd wedi'u camwerthu - gan arwain at gannoedd o gwynion gan y cyhoedd.

Daeth ymchwiliad gan y Rheoleiddiwr Rheoli Hawliadau hefyd i'r casgliad fod Falcon & Pointer Cyf. wedi gorfodi pobl i arwyddo cytundebau heb roi digon o amser iddyn nhw ddeall termau ac amodau cyn talu, sy'n mynd yn gwbl groes i reolau ymddygiad y rheoleiddiwr.

Roedd y cwmni wedi anwybyddu rhybuddion gan y Rheoleiddiwr a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac mae nawr wedi colli ei drwydded.

Mae hyn yn golygu na all gynnig gwasanaethau hawliadau wedi'u rheoleiddio i gwsmeriaid cyfredol neu newydd.

Dywedodd Kevin Rousell, pennaeth y Rheoleiddiwr Rheoli Hawliadau: "Mae Falcon & Pointer wedi dangos y diwydiant ar ei waetha'.

"Bwriad y cwmni yma'n amlwg oedd plagio a thwyllo defnyddwyr. Fe anwybyddon nhw rybuddion gennym ni a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac rydyn ni wedi diddymu eu trwydded o ganlyniad i'r ymgais bwriadol hwnnw i anwybyddu."

Mae'r Rheoleiddiwr Rheoli Hawliadau, sy'n rhan o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn goruchwylio cwmnïau sy'n cynnig helpu pobl i hawlio iawndal am bethau fel anafiadau neu am wasanaethau ariannol sydd wedi'u camwerthu.

Diddymu trwydded Falcon & Pointer yw'r cam diweddara' mewn ymgais i daclo ymddygiad gwael o fewn y diwydiant, ac mae miloedd o drwyddedau eraill wedi'u canslo ers 2010 a dirwyon gwerth dros £1.7 miliwn wedi'u cyflwyno.

Mae'r dyfarniad yn golygu fod yn rhaid i Falcon & Pointer roi'r gorau i ddelio â hawliadau yn syth.

Meddai'r Gweinidog Cyfiander yr Arglwydd Faulks: "Mae'n flaenoriaeth amddiffyn y cyhoedd a defnyddwyr a byddai ymddygiad cywilyddus y cwmni hwn wedi achosi loes gwirioneddol i lawer o bobl, yn enwedig pobl fregus ac oedrannus.

"ydd y llywodraeth yn parhau i weithredu yn erbyn cwmnïau sy'n rhoi eu helw eu hunain cyn hawliau defnyddwyr."