Y Gymraeg ar Facebook
- Cyhoeddwyd
Y llynedd roedd dros 1.5 biliwn o bobl ar hyd a lled y byd yn defnyddio gwefan Facebook yn rheolaidd ac roedd tua 180,000 o'r rheiny yn nodi eu bod yn deall Cymraeg.
Sut felly ddechreuodd y gwaith o greu rhyngwyneb Cymraeg i'r wefan boblogaidd?
Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gydag un o'r gwirfoddolwyr brwdfrydig fu'n helpu i gyfieithu bron i 20,000 o eiriau a brawddegau sy'n cael eu defyddio gan Facebook.
Roedd Adam Jones o Lanaman yn un o'r cyfieithwyr hyn. Yn wir, roedd yn un o'r bobl a gyfieithodd fwyaf o eiriau a brawddegau, gan gyfrannu 9,941 o gyfieithiadau, a hynny pan oedd yn fyfyriwr Cymraeg chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Aman.
"Oedd y profiad ges i o wneud e'n grêt. Roedd yna lot fawr o gyffro a momentwm i ddechrau. Roedd teimlad bod pobl yn gallu gwneud rhywbeth dros yr achos, dros y Gymraeg. Roedd hwn yn galluogi pobl i wneud rhywbeth dros eu hunain."
Yn wahanol i gyfeithiad o adroddiad gan y Cynulliad neu gyngor lleol, nid dim ond un cyfieithydd aeth ati yma ar eu liwt eu hun ond cannoedd o gyfranwyr. Ond sut, meddech chi, gafodd y cyfan ei dynnu at ei gilydd?
Creodd Facebook system yn rhan o'u gwefan oedd yn caniatáu i ddefnyddwyr gynnig eu cyfieithiadau eu hunain ar gyfer y rhyngwyneb. Os nad oedd rhywun eisiau bathu neu gyfieithu roedden nhw'n gallu cyfrannu trwy bleidleisio dros y cyfieithiadau gorau gyda bawd lan neu lawr.
"Oedd y rhyngwyneb ar gael yn eitha clou gan bod tua 200 o eiriau allweddol Facebook fel 'hoffi', 'mewngofnodi' a 'ffrind' wedi eu cyfiethu a'u derbyn yn sydyn. Oeddet ti'n gweld y cyfieithiadau'n ymddangos felly oedd e'n cyflyrru ti i wneud mwy.
"Roedd y system gyfieithu wedi'i seilio ar syntax Saesneg, oedd yn achosi problemau gyda threigliadau. Roedd rhaid addasu brawddegau i'w cael nhw i ffitio'n iawn. Doedd e ddim yn berffaith."
Roedd cyfle yma i bawb oedd eisiau gweld Facebook yn Gymraeg helpu i wireddu hynny. I'r rhai oedd yn frwd dros gyfieithu, roedd yna dabl cynghrair yn rhestru'r cyfieithwyr prysuraf a chyflwyno elfen o gystadleuaeth i'r broses.
Gyda chymaint o bobl yn cyfrannu, cafodd y gwaith ei gwblhau mewn cwta deufis, gyda 18,000 o frawddegau wedi eu trosi erbyn diwedd Mehefin 2008. Ond oedd yna broblemau? Unrhyw ddadlau? Dim llawer yn ôl Adam.
"Amser oeddet ti'n postio cyfieithiad roedd blwch sylwadau oddi tano felly roedd modd cael trafodaeth. Yn aml iawn beth oedd yn codi oedd gwahaniaethau tafodieithol rhwng y gogledd a'r de. I fod yn onest, o ystyried ffordd mae pethau'n gallu mynd, doedd dim lot fawr o anghytuno. Roedd e'n eitha di-drafferth."
Wrth gwrs, wrth i'r wefan dyfu o fod ar gael ar y we yn unig i fod ar gael trwy ap symudol a thyfu'n fwy cymhleth, mae'r angen i gyfieithu yn cynyddu. Gall unrhyw un sydd â chyfrif Facebook gyfrannu at gyfieithu elfennau newydd o'r wefan.
Daeth rhagor o blatfformau gwe ers hynny sydd hefyd yn creu galw am gyfieithiadau, beth amdanyn nhw?
"Mae Twitter wedi agor lan ei system i gyfieithu, ond dyw e ddim i'w weld wedi magu'r un stêm. Dyw hynny ddim oherwydd y defnyddwyr, ond problemau gyda'u system gyfieithu.
"Nath e Gymreigio iaith lot o bobl o ran cyfeirio at dechnoleg. Gwendid y peth yw achos ei fod wedi cael ei wneud gan y gymuned, ar ôl iddo fe ddigwydd, gafodd e ddim ei hyrwyddo gan Facebook, felly falle na chafodd ei ddefnyddio cymaint ag oedd."
Mae'r broses gyfieithu Facebook yn parhau, felly rhowch dro arni eich hunain, dolen allanol!