Perygl o wenwyn bwyd: Dirwy o £5,000
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog lle bwyta Tsieineaidd ym Mhorthcawl wedi cael dirwy o bron i £5,000 o bunnoedd ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau'n ymwneud a halendid bwyd.
Fe ddaeth swyddogion diogelwch bwyd Cyngor Bwrdeistref Sir Pen-y-bont o hyd i nifer o fethiannau yn Rising Moon ar Ffordd Newydd yn y dre ym mis Mawrth 2015.
Dechreuodd yr ymchwiliad wedi i'r perchennog, Mr Na Shi, fethu ag arddangos arwydd Sgor Hylendid Bwyd o 0 allan o 5 yn y siop - sgôr sy'n galw am welliannau brys.
Pan ymwelodd swyddogion â'r siop i ddelio a'r mater, fe ddaethon nhw o hyd i gymaint o achosion o dorri rheolau hylendid, fe ddaethon nhw i'r casgliad fod gwenwyn bwyd yn risg difrifol yno.
Daeth y swyddogion o hyd i borc yn dadrewi mewn dwr cynnes budr a bwyd arall wedi ei lygru. Roedd reis wedi ei goginio ddiwrnod ynghynt wedi ei adael ar dymheredd uwch nag sy'n ddiogel ac yn cael ei gadw mewn cynhwysyddion budr.
Cafodd bwyd wedi ei goginio ei ddarganfod ar lawr y gegin, ac roedd y staff yn gwisgo dillad budr ac yn defnyddio llieiniau brwnt. Roedd 'na berygl mawr hefyd oherwydd y cysylltiad rhwng cig amrwd a chig wedi ei goginio.
Yn Llys ynadon Pen-y-bont, plediodd Mr Na Shi yn euog i 12 cyhuddiad yn ei erbyn.
Clywodd y llys fod gan fusnes Mr Na Shi bellach sgor hylendid bwyd o 2 allan o 5.
Wedi'r achos dywedodd y Cynghorydd Charles Smith: "Roedd hwn yn achos difrifol lle roedd cyflwr y busnes yn achosi risg gwirioneddol o wenwyn bwyd.
"Yr hyn sy'n achosi pryder mawr yw bod swyddogion wedi ymweld a'r busnes ddwywaith o fewn 48 awr, ac eto fe fethodd y perchennog a gweithredu ar cyngor a roddwyd i wella hylendid.
"Rydym yn annog pobl i edrych am y Sgor Hylendid Bwyd mewn bwytai cyn cael pryd o fwyd neu brynu bwyd i fynd adref."
Mae modd gweld sgôr hylendid bwyd busnesau drwy ymweld a http://ratings.food.gov.uk/default/cy-GB.