Gwasanaeth LinksAir yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Links AirFfynhonnell y llun, Links Air

Mae cwmni LinksAir wedi dweud bod eu gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ar ben.

Yn wreiddiol, dywedodd llefarydd ar ran LinksAir fod y gwasanaeth, sy'n derbyn cymhorthdal gan y llywodraeth, wedi ei osod ar dendr ond nad oedd unrhyw gytundeb.

Wedyn dywedodd llefarydd ran Llywodraeth Cymru: "Fe dynnodd y darparwr eu gwasanaeth yn ôl heddiw'n ddirybudd ond rydym wedi trefnu cwmni arall, Citywing, fel bod y gwasanaeth yn ddidor."

'Sefyllfa anffodus'

Mewn ebost at gwsmeriaid roedd LinksAir wedi ymddiheuro am ganslo'r gwasanaeth, gan ddweud nad oedd unrhyw opsiwn arall "oherwydd ein sefyllfa anffodus gyda Llywodraeth Cymru".

Dywedodd y cwmni y byddai unrhyw un oedd wedi bwcio o flaen llaw yn cael ei arian yn ôl.

arwyddion meysydd awyr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaeth ei lansio yn 2007

Dechreuodd y teithiau yn 2007 ac mae'r gwasanaeth wedi derbyn £1.2m o gymhorthdal bob blwyddyn.

Ym mis Gorffennaf 2014 rhybuddiodd adroddiad un o bwyllgorau'r Cynulliad nad oedd y gwasanaeth yn perfformio cystal.

Clywodd ACau fod 8,406 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth yn 2012-13 tra oedd 14,718 yn 2008-09.

Yn 2015 cyhoeddodd LinksAir fod cynnydd o 40% yn nifer y teithwyr yn hanner cyntaf y flwyddyn o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2014.

'Llanast'

Ond ym mis Hydref collodd y cwmni drwydded er mwyn "diogelu'r cyhoedd".

Cwmni North Flying gymerodd gyfrifoldeb am y gwasanaeth ar ran y cwmni.

Wrth ymateb i'r sefyllfa ddiweddara, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod y mater yn amlygu'r "llanast wrth galon llywodraeth Lafur Cymru".

Ychwanegodd: "Mae'n anodd cyfiawnhau'r ffordd y maen nhw wedi delio gyda datblygiadau diweddar."

Ar y Post Prynhawn dywedodd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ei fod wedi cyflwyno cwestiwn brys i'r llywodraeth am ddyfodol y gwasanaeth.