System balot fydd yn dewis rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd yn 2026

- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf, dim ond trwy system balot y bydd modd cael lle i redeg yn Hanner Marathon Caerdydd.
Fe ddaw'r newid gan fod poblogrwydd y ras wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ôl y trefnwyr mi fydd balot yn sicrhau bod pawb yn cael yr un tegwch.
Agorodd y system balot ar gyfer ras 2026 ddydd Mawrth, ac mae modd rhoi eich enw yn rhad ac am ddim tan hanner nos 19 Hydref.
Fe wnaeth y llefydd ar gyfer y ras eleni, fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul, werthu o fewn oriau o gael eu rhyddhau.
"Mae'r siawns o ennill lle drwy'r bleidlais yn dal yn uchel, felly byddem yn annog pawb sydd eisiau rhedeg y ras y flwyddyn nesaf i wneud cais," meddai'r trefnwyr.
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
Mi fydd canlyniadau'r balot yn cael eu cyhoeddi ar 23 Hydref, pan fydd opsiynau cofrestru eraill, gan gynnwys ceisiadau elusennol, hefyd yn agor.
Bydd lleoedd disgownt yn cael eu gwarantu ar gyfer aelodau o Athletau Cymru sy'n awyddus i gystadlu ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon Cymru, gyda 1500 o leoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
"Rydym mor falch o dwf anhygoel Hanner Marathon Caerdydd, sydd wedi tyfu i fod yn un o hanner marathonau mwyaf Ewrop ac sydd bellach yn denu rhedwyr o bob cwr o'r byd i'n prifddinas," meddai Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.