Llwgrwobrwyo cyn-arweinydd Reform yn 'gywilyddus' - Morgan

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan: "Roedden ni'n gwybod bod Reform yn fygythiad yng Nghymru"

  • Cyhoeddwyd

Mae'n "gywilyddus" bod cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi pledio'n euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo (bribery) tra'n aelod etholedig o Senedd Ewrop, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Plediodd Nathan Gill, oedd yn arfer bod yn wleidydd ym Mae Caerdydd hefyd, yn euog yn yr Old Bailey ddydd Gwener i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019.

Yn ateb cwestiynau am yr achos ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan fod Reform yn cynnig "posibilrwydd gwirioneddol o lygredd ac anhrefn".

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu y gallai Reform ennill etholiad nesa'r Senedd ym mis Mai.

Gan gyfeirio at achos Gill yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog brynhawn Mawrth, gofynnodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Darren Millar, i Ms Morgan a oedd hi'n cytuno bod "Reform yn berygl clir a phresennol i'n diogelwch cenedlaethol yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig".

Dywedodd y prif weinidog: "Yn bendant, rwy'n cytuno.

"Rhaid i mi ddweud ein bod ni'n gwybod bod Reform yn fygythiad yng Nghymru, bod posibilrwydd gwirioneddol o lygredd ac anhrefn, ac mae gennym ni dystiolaeth o hynny nawr drwy rywun a oedd yn gyn-arweinydd Reform yng Nghymru.

"Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein dychryn gan weithred cyn-arweinydd Reform yng Nghymru, person a oedd yn aelod o'r siambr hon," ychwanegodd.

Roedd Gill yn un o saith gwleidydd UKIP gafodd eu hethol i'r Senedd yn 2016 pan oedd y blaid o dan arweiniad arweinydd presennol Reform, Nigel Farage.

Darren Millar Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darren Millar bod "Reform yn berygl clir a phresennol i'n diogelwch cenedlaethol yma"

Gofynnodd Mr Millar i Ms Morgan hefyd am gynlluniau llywodraeth Lafur y DU i gyflwyno cardiau adnabod digidol ledled y DU.

"Sut ar y ddaear allwch chi gyfiawnhau gwariant mor wastraffus ar gardiau adnabod digidol pan fo cynifer o bobl ar restrau aros [y GIG], cynifer o bobl ifanc yn dod allan o'n hysgolion yn methu darllen, a chynifer o bobl yn ein cymunedau yn ymladd i achub eu llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a thoiledau cyhoeddus?

"Mae'n warth," meddai.

Dywedodd Ms Morgan, sydd eisoes wedi dweud y dylai baner Cymru fod ar gardiau adnabod digidol pobl o Gymru: "Rydym i gyd yn defnyddio ein ffonau symudol mewn cymaint o wahanol ffyrdd yn ein bywydau beunyddiol.

"Mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn i mi nad yw'r wladwriaeth yn mynd i fod yn rhan o hynny, ac rwy'n credu bod cyfleoedd yma.

"Yn amlwg, mae angen gwneud llawer o waith i sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn ddiogel a bod manylion personol yn ddiogel, ond mae hyn yn rhywbeth sy'n gyffredin iawn ar draws llawer iawn o genhedloedd y byd."

'Iaith a oedd yn amhriodol i'w swyddfa'

Galwodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar Ms Morgan i "fyfyrio" ar sylwadau a wnaeth yn ei haraith yng nghynhadledd y blaid Lafur ddydd Sul pan ddisgrifiodd Blaid Cymru a Reform fel "gwenwyn gwahanol o'r un botel".

"Wrth gwrs, does neb yn meddwl am eiliad bod Plaid Cymru a Reform yn cynnig yr un peth.

"Eto yn ei haraith defnyddiodd y prif weinidog iaith a oedd yn amhriodol i'w swyddfa i ddisgrifio ei gwrthwynebwyr gwleidyddol."

"Pam ei bod hi'n meddwl bod Plaid Cymru a Reform mor debyg? Ble rydyn ni'n hyrwyddo undod, maen nhw'n creu rhaniadau," ychwanegodd.

Ymatebodd Morgan fod "Reform eisiau rhannu ein cymunedau a bod Plaid eisiau rhannu ein cenedl" gyda'i safbwynt o blaid annibyniaeth.