Hogia Ni: Recordio cân ymgyrch Cymru yn Euro 2016

  • Cyhoeddwyd
Hogia ni
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Ywain Myfyr, Tudur Huws Jones, Ywain Gwynedd, Iwan Arwel, Glyn Griffiths, Dylan Jones, Aled Rîs Jones, Idris Morris Jones, Dylan Wyn a Jôs Giatgoch

Dros y penwythnos bu criw o gerddorion sy'n gefnogwyr pêl-droed Cymru yn brysur yn ail-recordio cân arbennig ar gyfer ymgyrch Cymru yn Euro 2016.

Yn rhan o'r recordiad yn stiwdio Sain, Llandwrog, oedd aelodau'r grŵp gwerin, Gwerinos, seren o'r Sîn Roc Gymraeg ac ambell i lais cyfarwydd ar donfeddi Radio Cymru.

Syniad Ywain Myfyr, prif leisydd Gwerinos ac un o drefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau, oedd ail-recordio 'Hogia Ni', gyda chymorth gan y cerddor, Yws Gwynedd, cyflwynydd Radio Cymru, Dylan Jones, a phanelwyr rhaglen Ar y Marc, y dyfarnwr Iwan Arwel a'r blogiwr Glyn Griffiths.

Mae Ywain wedi teithio Ewrop gyfan yn cefnogi Cymru, ac fe benderfynodd recordio dwy fersiwn o'r gân ddydd Sadwrn, sef 'Hogia Ni' - y fersiwn Gymraeg, ac 'All the Way' - y fersiwn Saesneg.

Disgrifiad,

Y criw yn ymarfer y gytgan cyn ei recordio

Yn ôl Ywain roedd hwn yn gyfle "rhy dda i fethu".

Dywedodd: "Gyda Chymru, am y tro cyntaf ers blynyddoedd, wedi cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth pêl-droed, dyma ni'n meddwl bysa gwneud fersiwn newydd o'r gân 'Hogia Ni' ddaru ni flynyddoedd yn ôl yn syniad da.

"Da ni wedi cael hwyl garw yn ei recordio hi yn y stiwdio, mae Yws Gwynedd wedi bod yn ein helpu ni, ac mae criw Ar y Marc wedi dod i mewn i ganu efo'u lleisiau cefndir soniarus, a hefyd aelodau o fand pres Deiniolen.

tri tenor
Disgrifiad o’r llun,

Y dyfarnwr a phanelydd Ar y Marc, Iwan Arwel, cyflwynydd Radio Cymru, Dylan Jones, a'r panelydd a golygydd pêl-droed y Cymro, Glyn Griffiths - Y Tri Tenor newydd!

"Roedd Dylan Jones isho canu cerdd dant ar y record, ond doedd gennym ni ddim telyn, felly roedd yn rhaid iddo fo wneud efo drum and bass.

"Gobeithio bydd y trac yn barod yn fuan iawn, ac fe fydd o ar gael i'w lawr lwytho. Fe fydd yr holl elw a wneir o'r record yn mynd at elusen cefnogwyr Cymru - Gôl (elusen sy'n mynd ag offer pêl-droed i gartrefi plant amddifad mewn gwledydd lle mae Cymru yn chwarae)."

hogi ni
Disgrifiad o’r llun,

Siôn (y peiriannydd sain) Ywain Myfyr a Tudur Huws Jones wrth y ddesg gymysgu

Yn ymuno ar y record mae Yws Gwynedd, cerddor sy'n gyn-aelod o'r grŵp Frizbee, ac yn gyn-chwaraewr ganol cae i Glwb Pêl-droed Caernarfon: "Oni'n falch iawn o gael gwahoddiad i ddod i Sain i ganu pennill ar y gân ar gyfer y trip mawr i Ffrainc yn yr haf," meddai.

"Pan oni'n fychan ac yn mynd yn y car efo mam a dad, fe ddaru Gwerinos addasu'r gân bryd hynny ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau, ac mi oedda ni yn bloeddio canu hi efo'r casét yn car dad rownd y rîl.

"Dwi'n gobeithio y byddi'n math o gân y bydd pobl yn gallu chwarae a'i mwynhau yn y car, ar yr awyren, ar y trên ac ar y cwch ar y ffordd i Ffrainc.

yws gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Yws Gwynedd yn mynd amdani

"Er mod i heb gynllunio mynd i Ffrainc eto, mae 'na sôn ella 'sa ni'n gall mynd draw i Ffrainc i wneud ambell i gig, achos dwi'n siŵr y bydd 'na ddim llawer o bobl ar ôl yng Nghymru ym mis Mehefin.

"Mae'n brofiad gwych cael dod yma i recordio i Sain o ystyried yr hanes sydd i'r lle, a'r holl bobl anhygoel sydd wedi recordio yma. Mae'n brofiad gwych hefyd i gael recordio can werin ei naws, gan fy mod i'n canu roc ne pop fel arfer, mae canu gwerin yn gofyn i rywun ddefnyddio'i lais yn wahanol, ti'n gorfod swnio fatha bo chdi wedi smocio lot o ffags."

Mae'r criw yn gobeithio gallu rhyddhau CD gyda chasgliad o ganeuon arbennig ar gyfer yr ymgyrch.

Idris Morris Jones
Disgrifiad o’r llun,

Idris Morris Jones - ffidlwr Gwerinos

hogia Ni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fersiwn newydd o 'Hogia Ni' yn cynnwys geiriau newydd a threfniant yn cynnwys alaw 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech'

band presFfynhonnell y llun, Ywain Myfyr
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o Fand Pres Deiniolen yn recordio darn ar gyfer y record