Indiana Jones a Chymru

  • Cyhoeddwyd
llawr

Wrth feddwl am archaeoleg mae un cymeriad o'r sgrin fawr yn dod i'r meddwl yn syth, Indiana Jones.

Mae het, siaced a chwip yr anturiaethwr enwog i'w gweld fel rhan o arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n agor ar 26 Ionawr. Hefyd yn rhan o'r arddangosfa mae'r penglog grisial o'r ffilm 'Indiana Jones and the Kingdom of The Crystal Skull'.

Mae 'Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol' - un o ddigwyddiadau cyntaf Blwyddyn Antur Cymru 2016, dolen allanol - yn edrych ar sut mae archaeoleg wedi dylanwadu diwylliant poblogaidd, ac hefyd dylanwad diwylliant poblogaidd ar archaeoleg, ers i'r anturiaethwyr cynnar ddechrau archwilio'r hen fyd.

Un o brif atyniadau'r arddangosfa yw'r mymi, Ta-Sheri-ankh, sydd ar fenthyg o Amgueddfa Manceinion.

Disgrifiad o’r llun,

Mymi hogan ifanc o'r Aifft, Ta-Sheri-ankh

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mymi yn dyddio o 300 cyn oed Crist

"Rhannu hanes y byd"

Prif guradur yr arddangosfa ydy'r archeolegwr Marc Redknapp. Bu'n sôn rhagor wrth Cymru Fyw am yr her o'i pharatoi:

"Fe wnaeth o gymryd tua 12 mis i ddod â'r holl eitemau at ei gilydd ar gyfer yr arddangosfa. Roedd hon yn amserlen dynn iawn gan fod arddangosfeydd fel arfer yn cymryd dwy neu dair blynedd i'w paratoi - pedair os yw'n arddangosfa fawr.

"Mae'r arddangosfa yn gyfle gwych i rannu diwylliannau a hanes y byd gyda phobl Caerdydd. Mae'n ein galluogi i rannu straeon yr hen fyd gydag oedfa newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Trysorau hynafol yr Aifft gafodd eu darganfod gan Giovanni Belzoni

Archaeoleg yn ysbrydoli

Cafodd y cymeriad Indiana Jones ei ysbrydoli gan gampau archeolegwyr hanesyddol fel Giovanni Belzoni a Flinders Petrie - 'tad archaeoleg Eifftaidd' - a'r anturiaethwraig Adela Breton. Mae eu straeon nhw yn cael eu hadrodd yn yr arddangosfa hefyd.

Dyma'r tro cyntaf i nifer o'r eitemau gael eu harddangos yng Nghymru, gan gynnwys aur cyn-Golumbaidd; arteffactau hynafol o gloddiadau Schliemann ym Mycenae, Groeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o bropiau 'Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull' yn rhan ganolog o'r arddangosfa

Dewis eitemau

"Ar gyfer yr arddangosfa roedd rhaid meddwl am y ffordd y mae archaeoleg yn cael ei gweld mewn ffilmiau, a sut rydym yn gweld yr hen fyd a diwylliannau sydd bellach wedi diflannu," meddai Marc Reknapp.

"Wnaethon ni ystyried beth oedd yma yng Nghaerdydd eisoes, a beth oedd ei angen yn ychwanegol ar yr amgueddfa er mwyn cryfhau y stori rydyn ni yn ei chyflwyno i bobl.

"Mae'r technegau diweddar a'r datblygiadau diweddar ym myd archaeoleg heddiw yn ein galluogi i ddarganfod pethau doedd ddim posib i'w wneud ugain mlynedd yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r penglogau grisial gafodd eu defnyddio yn y ffilm 'Indiana Jones and the Kingdom of The Crystal Skull' (2008)

Ffynhonnell y llun, Lucas Films
Disgrifiad o’r llun,

Indiana Jones (Harrison Ford) yn gafael yn un o'r penglogau mewn golygfa o'r ffilm

Disgrifiad o’r llun,

Y siaced, chwip a'r het chwedlonol. Dim ond tair siaced gafodd eu gwneud ar gyfer y gyfres ffilmiau boblogaidd

Trysorau o Gymru

Mae gan Gymru hefyd ei siâr o drysorau ac anturiaethau archaeolegol yn ôl Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru:

"Mae'n gyfle i ymwelwyr gamu mewn i fyd anturwyr enwog er mwyn dadorchuddio trysorau o bob cwr o'r byd.

"Mae llawer o'r gwrthrychau i'w gweld am y tro cyntaf yng Nghymru a rydyn ni wedi cael y cyfle i fenthyg llawer o wrthrychau o amgueddfeydd eraill er mwyn cynnig rhywbeth newydd a chyffrous i ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Llychlynwr a gafodd ei ddarganfod yn Llanbedrgoch, Ynys Môn

"Yn ogystal â hyn, ry'n ni'n arddanagos llawer o drysorau o gasgliad Amgueddfa Cymru sy'n dangos yr anturiaethau archaeolegol yng Nghymru, o gelc o fodrwyau a cheiniogau Rhufeinig o Sili, sydd wedi'u casglu ynghyd am y tro cyntaf ers cael eu darganfod ym 1899, i weddillion dynol o gladdedigaethau o oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch, Ynys Môn."

Mae 'na gyfle hefyd i weld arian o long yr Ann Francis a gafodd ei dryllio ar draeth Margam ym 1583.

Disgrifiad o’r llun,

Helmedau Groegaidd o gasgliad personol Heinrich Schliemann, yr Almaenwr a ddarganfyddodd ddinas Troy

Meddai Lleucu Cooke: "Mae digon i ymwelwyr fwynhau a rhywbeth i bawb, mae'r arddangosfa yn cynnwys nifer of straeon anturus am archwiliadau gan archeolegwyr, a'u darganfyddiadau hynod - ffaith a ffuglen.

"Mae'n hefyd yn edrych ar sut mae archaeoleg wedi dylanwadu ar ddiwylliant poblogaidd, o Indiana Jones i Tintin."

'Trysorau: Anturiaethau Archeolegol', Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 26 Ionawr-30 Hydref 2016