Gwrthwynebu codi pris tocynnau bws

  • Cyhoeddwyd
Meirion-Dwyfor

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn gwrthwynebu cynllun posib gan Gyngor Gwynedd i godi pris tocyn bws i gyrraedd safle Dolgellau o £60 i £100 y tymor o fis Medi ymlaen.

Maen nhw hefyd am weld y cyngor yn darparu bws penodol i gludo myfyrwyr i Ddolgellau, gan ddweud bod yna a broblemau efo bysus cyhoeddus.

Dywed Cyngor Gwynedd fod y prisiau wedi aros yr un fath ers pum mlynedd, a'i bod yn sybsideiddio'r prisiau presennol hyd at 80%.

Mae gan Goleg Meirion Dwyfor dri safle sef Dolgellau, Pwllheli a Glynllifon ,Dolgellau yw'r prif safle.

Un sy'n fyfyriwr yno yw Jordan Edwards:

"Ar y funud mae'n £60 bob tymor i deithio ar y bysus, felly - bob blwyddyn mae hynna'n £180 i bob disgybl, felly i deulu sydd efo mwy nag un plentyn, mae hynna'n lot o arian yn barod, ond maen nhw rŵan eisiau codi'r pris i £100 y tymor ac mae hynna'n lot o arian i bobl roi allan."

Disgrifiad o’r llun,

Steffan Chambers (chwith) a Jordan Edwards

Steffan Chambers ydy llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion- Dwyfor:

"Oherwydd bod y tocyn dros 16 oed, oherwydd bod o m'ond yn caniatáu i fyfyrwyr fynd dwywaith y diwrnod, mae 'na broblemau gorlawnder ar y bysiau, ac mae hyn yn risg iechyd a diogelwch mawr.

"Rydyn ni wedi gweld geneth ifanc yn llewygu hyd yn oed," meddai.

"Mae'n rhywbeth difrifol sydd angen cael ei sortio.

"Dwi wedi bod at y cyngor a dwi wedi gofyn am docyn teithio hyblyg, er mwyn i fyfyrwyr i gael teithio o fewn 8 y gloch y bore a 5 y nos, fel bod y broblem gorlawnder yn lleihau a bod myfyrwyr yn cael defnydd mwy sicr o'r tocyn teithio."

Monitro

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad oes reidrwydd statudol i ddarparu trafnidiaeth i fyfyrwyr sydd dros 16 oed a'i bod yn sybsideiddio'r prisiau presennol hyd at 80%.

Mae'r prisiau wedi aros yr un fath ers pum mlynedd.

Ychwanegodd fod y Cyngor yn ymchwilio i unrhyw gwynion sy'n cael eu cyflwyno ac yn monitro'r gwasanaeth.

Dywedodd y llefarydd fod y cwmnïau trafnidiaeth yn gwbl ymwybodol o'r cosbau pe bai unrhyw achosion o orlenwi bysiau.