Y ferch o’r gorllewin a chwlt Comrade Bala
- Cyhoeddwyd
O edrych arni yn arwynebol mi fyddai unrhyw un yn meddwl fod Siân Davies yn ferch ffodus iawn. Roedd hi'n brydferth, yn glyfar, yn hyderus, ac yn dod o deulu cefnog.
Ond am ryw reswm mi benderfynodd y ferch o Orllewin Cymru droi ei chefn ar hyn oll ac ymuno a chwlt cudd yn y 70au. Treuliodd weddill ei hoes wedi ei hynysu oddi wrth ei theulu, ei ffrindiau a'i chynefin.
Ddydd Gwener, bydd y gŵr 74 oed oedd yn arwain y cwlt eithafol Maoaidd, Aravindan Balakrishnan, yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark. Mi gafodd ei ganfod yn euog mis Rhagfyr y llynedd o gyflawni nifer o droseddau rhyw, yn cynnwys treisio, a chadw pobl yn erbyn eu hewyllys.
Roedd Siân Davies yn unig blentyn i Ceri a Dr Alun Davies, meddyg teulu uchel ei barch o Dregaron. Roedd elfen soffistigedig yn perthyn iddi hyd yn oed pan yn blentyn ifanc, yn ôl ffrind ddechreuodd yr ysgol gynradd yr un diwrnod a hi yn niwedd y 50au.
"Mi fyddai Siân a fi yn chwarae gyda'n gilydd ar ôl ysgol - byswn i yn mynd i'w thŷ hi, a hi yn dod i fy nhŷ i," meddai Elizabeth Jones.
"Dwi'n cofio hi'n dod i tŷ ni yn ystod y cyfnod cneifio unwaith a basged ei mam ganddi yn llawn make-up a sodlau uchel. Doeddwn i erioed 'di gweld ffashwn bethau. Doedd gan Mam ddim byd fel yna a hithau yn wraig fferm. Roedd ganddi degannau luxurious hefyd a byddai bob tro yn barod i rannu. Ond mi wnath adael yr ysgol yn saith oed i fynd i ysgol breifat. Dwi'n cofio ni'n cofleidio ar ei diwrnod ola, ond dim byd wedyn."
'Sioc anferthol'
Ar ôl gorffen yn ysgol breswyl Malvern fe aeth Siân i Goleg Cheltenham ar gyfer merched. Pan oedd yn 16 oed fe laddodd ei thad ei hun yn eu cartref yn Nhregaron.
"Oedd e'n feddyg uchel iawn ei barch, gwr bonheddig, a bydda'n rhoi ei gleifion yn gyntaf," meddai Margaret Evans oedd yn rhedeg siop gig yn y dref gyda'i gŵr. "Roedd e'n gweithio bob awr o'r dydd. Dwi'n cofio fy ngŵr yn gorfod mynd ato am chwech y bore ar ôl gael cwt ar ei fys, a Dr Alun yn ei bwytho a Mrs Davies yn gwneud paned iddo.
"Ges i achos wedyn gyda'r ferch yn sâl, yn dioddef o grumbling appendix noswyl Nadolig, a bu Dr Alun yn ein gweld ni bob dwy awr o'r dydd drwy ddiwrnod Dolig. Dyna'r math o feddyg oedd e. Roedd yn poeni am ei gleifion. Gormod efallai. Roedd yn sioc anferthol i bawb pan fuodd farw."
Roedd yn anodd mesur yr effaith ar Siân, meddai ei ffrind pennaf yng Ngholeg Cheltenham, Sally Unwin.
"Mi wnaethom ni ddod yn agos iawn ar ôl hyn," meddai. "Mi dynnodd Siân yn ôl oddi wrth bawb arall. Doedd hi ddim yn siarad am y peth, sydd yn arwydd ei bod wedi cadw popeth i mewn dwi'n meddwl. Doedd hi ddim yn berson oedd yn rhannu ei theimladau deud y gwir, a dwi'n meddwl bod hynna wedi ei gadael yn agored i niwed.
"Wrth edrych yn ôl, dwi'n credu y cafodd effaith ddofn arni. Ar ôl ysgol mi aeth hi i brifysgol Aberystwyth i astudio'r gyfraith ac mi es i i Fanceinion. Doedden ni ddim mor agos. Dwi'n cofio iddi droi'n genedlaetholgar am gyfnod, roedd rhyw edge iddi nad oeddwn i wedi ei weld cyn hynny."
Yn ystod ei hail flwyddyn yn y brifysgol, fe gychwynodd Siân berthynas gyda myfyriwr o'r enw Martin Clarke - oedd hefyd o gefndir breintiedig. Cyn diwedd eu cyfnod yno mae tystiolaeth bod Siân a Martin wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth asgell chwith ac yn ystyried eu hunain yn sosialwyr rhyngwladol oedd am weld cymdeithas decach ar draws y byd. Ar ôl graddio, symudon nhw i Lundain i astudio yn yr LSE - the London School of Economics.
Roedd ganddi gyfnither o Dregaron yn byw yn Ne Llundain a gan fod y ddwy yn agos mi fydda nhw'n cyfarfod o dro i dro.
"Bydda ni yn mynd i siopa gyda'n gilydd," meddai Eleri Morgan. "Mi o ni yn dysgu yn Greenwich a bydda ni yn mynd allan a chael hwyl yn Llundain."
Ond er bod y siopau a'r theatrau yn ffynnu, roedd canol y saithdegau hefyd yn gyfnod o ddiweithdra, chwyddiant uchel a streicio cyson. Roedd hi hefyd yn gyfnod y Rhyfel Oer. Cael ei thynnu mwy fwy i mewn i'r math yma o wleidyddiaeth wnaeth Siân Davies, a chael ei swyno gan ŵr o India oedd yn byw yn Llundain.
Y dyn yma oedd Aravindan Balakrishnan - neu Comrade Bala. Roedd o wedi addasu theorïau comiwnyddol Cadeirydd Mao - Arweinydd Tseina ar y pryd - ac wedi creu sect wleidyddol ei hun, oedd yn cael ei ystyried yn un eithafol.
Symudodd Siân Davies a Martin Clarke yn agosach at Comrade Bala, i Battersea yn Ne Llundain. Roedd Siân yn 23 oed ac yn galw ei hun yn Chwyldroadwr Proffesiynol erbyn hyn. Roedd yn treulio ei hamser yn cenhadu dros y sect - protestio, siarad mewn cyfarfodydd, a rhannu pamffledi er mwyn recriwtio aelodau.
Yn ystod y cyfnod yma, mi gafodd Siân ymweliad gan ei ffrind pennaf o'i dyddiau ysgol, Sally Unwin.
"Dwi'n cofio'r ymweliad yn glir. Roedd hi'n siarad fel comiwnydd, yn deud wrtha i fod byddin o'r Dwyrain yn dod a bod y byd ar fin dod i ben a ballu," meddai Sally.
"Roedd fel bod robot yn siarad efo fi. Roedd wedi ei indoctrinatio. Yn llythrennol wedi gwysgo mewn dillad Maoaidd ac yn gwrando ar sianel radio gomiwnyddol Tseiniaidd, ac roedden ni gyd yn gorfod gwrando arni. Doedd hi ddim yr un ferch a'r un o ni yn ei hadnabod erbyn hynny. Dyna'r tro olaf i mi ei gweld hi."
Defnyddiodd Siân ei harian i dalu am rywle i holl aelodau'r sect fyw gyda'i gilydd yn Acre Lane yn Brixton ac fe aethant ati i agor Ganolfan Goffa i'r Cadeirydd Mao yno. Bu'n gyfnod cythryblus. Roedd Jon Shatford yn blismon gyda'r Met ar y pryd.
"Roedden ni gyd lawr yn yr orsaf heddlu wedi ein cyfareddu gan Siân, yn siarad amdani yn aml," meddai. "Roedd y criw yn pregethu athroniaeth y Cadeirydd Mao ac yn gwysgo'r bathodynnau mawr coch 'ma. Mi eshi mewn i'r ganolfan un diwrnod i gael golwg arnyn nhw, ac roedd Krishnan yna.
Dyna'r tro cyntaf i mi gyfarfod Siân. Mi ddoth hi lawr y grisiau a gweld fi yn fy ngwisg plismon a gofyn beth oeddwn i yn ei wneud. Dwedais bo fi yn edrych ar eu llenyddiaeth ac mi gychwynodd sgrechian "Get Out Fascist"… Mi ddoth ar fy ôl i'r stryd a nesh i orfod ei harestio yn y diwedd achos doedd hi cau gadael llonydd i mi."
Carchar Holloway
Dros y misoedd nesa, mi gafodd sawl aelod o'r sect, a Siân, eu harestio nifer o weithiau ac mi dreuliodd hi gyfnod yng ngharchar Holloway.
Erbyn hyn, roedd wedi colli cysylltiad gyda'i mam ac Eleri Morgan ac roedden nhw yn edrych amdani. Cyflogwyd ditectif preifat i ddod o hyd iddi, ac mi aeth Eleri i'r tŷ yn Brixton, ond doedd na ddim ateb yno.
"Mi wnaeth ei mam ymddeol o Dregaron a symud i Aberaeron. Byddwn yn ei gweld weithiau," meddai ei ffrind o'i dyddiau ysgol cynradd, Elizabeth Jones. "Byddai ei mam yn deud wrthai ei bod yn colli Siân, a bod trueni eu bod wedi ei gyrru hi i ffwrdd, ond 'dyna ni, mae hi gyda rhywun rŵan a dy ni ddim yn cael cysylltu â hi' meddai. Roedd yn amlwg ei bod yn poeni amdani."
Yn 1978 fe gafodd y ganolfan Maoaidd yn Brixton ei chau ac mi ddiflannodd y sect oddi ar radar yr heddlu a phawb arall. Mae'n debyg, yn y cyfnod yma, fod Siân yn gyfrifol am redeg y tŷ a thalu biliau'r grŵp ac wedi prynu car er mwyn cludo Comrade Bala o le i le. Ac er bod ganddo wraig, Chandra, fe gafodd Siân blentyn gyda fo: merch na chafodd chwarae gyda'r un plentyn arall erioed, na chafodd fynd i'r ysgol. Merch a'i chadwyd yn guddiedig am ddegawdau.
Syrthio
Chlywodd Eleri Morgan ddim gan ei chyfnither o ddiwedd y 70au hyd nes iddi dderbyn galwad ffôn annisgwyl ganddi ym mis Gorffennaf 1996. Roedd eisiau gwybod sut oedd y teulu, ond doedd hi ddim yn fodlon cyfarfod Eleri am baned.
Mae'n ymddangos erbyn hyn fod Siân mewn trafferthion. Noswyl Nadolig, ychydig fisoedd wedi'r alwad ffôn yma, mi syrthiodd o ffenestr ail lawr y tŷ lle'r oedd yn byw yn Brixton gydag aelodau eraill y sect.
Bu mewn ysbyty am wyth mis cyn marw o'i hanafiadau yn Awst 1997. Wyddai'r teulu ddim am ei damwain nes i'r heddlu ymweld â Ceri Davies i ddweud wrthi fod ei merch wedi marw. Mae Eleri'n flin gydag aelodau'r sect na wnaethon nhw adael i'r teulu wybod fod Siân yn wael.
"Dwi mor flin na ddywedon nhw wrth Anti Ceri fod Siân yn sâl er mwyn iddi gael ei gweld, yn enwedig pan ddaeth yn amlwg na fyddai'n gwella o'i hanafiadau," meddai Eleri.
Dyfarniad agored oedd canlyniad cwest yn 1998 i farwolaeth Siân, ond roedd y crwner yn rhwystredig nad oedd eglurhad ynglŷn â sut a pham y syrthiodd drwy'r ffenest.
Mi gymerodd 15 mlynedd arall i'r gwir am Aravindan Balakrishnan a'r hyn oedd yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig y sect ddod i'r wyneb. Er bod Siân Davies wedi ymuno â'r grŵp yn wirfoddol a chwarae rhan allweddol yn ei redeg am bron i 20 mlynedd, fe ddaeth yn amlwg i Eleri Morgan ei bod eisiau gadael erbyn y diwedd.
"Clywson ni yn y cwrt bod hi yn trio rhedeg mas a bod nhw'n tynnu hi'n ôl ac eistedd arni a rhoi dillad yn ei cheg hi. Roedd hi'n begian i gael ffôn i ffonio ei mam a oedd o'n pallu gadael hi. O'n ni eisiau gweiddi mas yn y cwrt pan glywish i hynny achos oeddwn i'n jest meddwl drosti beth oedd hi wedi mynd drwyddo. Wrth gwrs oedd hi'n sâl a 'sa hi wedi cael mynd i weld doctor falle bydda hi'n fyw heddi."
Dair blynedd yn ôl fe wnaeth tair dynes adael y cwlt a daeth eu stori i sylw'r wasg genedlaethol. Un ohonyn nhw oedd merch Siân gyda Comrade Bala, sydd erbyn hyn yn 34 oed.
Cafodd Aravindan Balakrishnan ei arestio ac roedd y ferch yn ganolog i'r achos llys yn ei erbyn - lle clywodd y rheithgor pa mor galed a chymhleth oedd ei bywyd dan ei ddylanwad. Fe glywodd y llys i'r merched gael eu cam-drin yn seicolegol, yn gorfforol ac yn rhywiol ganddo, a'i fod yn eu cadw yn erbyn eu hewyllys drwy ddefnyddio'r hyn oedd yr heddlu yn ei alw yn "invisible shackles".
Peiriant anweledig
Roedd o wedi eu perswadio bod ganddo beiriant anweledig o'r enw Jackie oedd yn ei alluogi i ddarllen eu meddyliau a rheoli pobl.
Roedd yn sioc i Eleri Morgan ddarganfod bod gan Siân ferch 30 oed gyda Comrade Bala.
"Oedd merch Siân ddim yn gwybod pwy oedd ei mam tan fuodd Siân farw. Fe glywodd hi'r menywod yn siarad cyn yr inquest a gweud, os oedden nhw'n cael ei gofyn os oedd plentyn gyda Siân, fydden nhw'n deud na. Ond mae merch Siân yn ddigon cryf yn ei meddwl ac fe ofynodd 'Ai Siân yw fy mam?' a phryd hynny daeth hi i wybod.
"Roedd nhw i gyd yn siario edrych ar ei holi hi. Doedd Siân ddim yn cael breast feedio hi rhag ofn iddi droi yn lesbian, ac roedd Siân yn eithaf caled arni. Byddai'n ei bwrw, gweiddi arni, a'i hel i'w stafell lle bydda hi am ddyddiau."
Bydd Aravindan Balakrishnan yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener am gadw'r merched yn erbyn eu hewyllys a nifer o droseddau rhyw, gan gynnwys treisio.
Erbyn hyn, mae merch Siân yn byw yng Ngogledd Lloegr ac yn cael gofal gan wahanol asiantaethau. Mae'n dechrau dod i adnabod ei theulu o Gymru. Yn anffodus tydi hi byth yn mynd i gyfarfod ei nain, Ceri Davies, fu farw yn 2005, ond mae ei modryb Eleri Morgan mewn cysylltiad cyson â hi drwy Facetime a galwadau ffôn wythnosol.
Pwy oedd y ferch o orllewin Cymru wnaeth droi ei chefn ar ei chefndir, ei ffrindiau a'i theulu er mwyn byw mewn cwlt eithafol am ugain mlynedd?
MANYLU - ar Radio Cymru dydd Iau am 12.30