Seland Newydd 'ta Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llewod draw yn Seland Newydd ar hyn o bryd, ac yn bell iawn o adref. Ond mae'n debyg na fydd y 12 Cymro sydd yn y garfan yn teimlo gormod o hiraeth...
Mynyddoedd a golygfeydd hardd, trigolion cyfeillgar, chwaraewyr rygbi medrus a chig oen blasus - oes, mae 'na lawer yn debyg rhwng Seland Newydd a Chymru. Ond tybed allwch chi adnabod ym mha wlad gafodd y lluniau yma eu tynnu?

1. Beth sy'n cael eu magu yma - cig oen Cymreig 'ta chig oen Seland Newydd?

2. Mae tywydd stormus yn digwydd yn y ddwy wlad

3. Oedd Cymru yn chwarae gartref neu i ffwrdd yn y gêm yma?

4. Siawns fod rhywun yn 'nabod y llyn yma... neu ydych chi?

5. Yn lle gafodd yr Haka yma ei berfformio?

6. Yr awyr ar dân - ond yn hemisffer y de 'ta'r gogledd?

7. Digon o gaeau glas i'r defaid bori

ATEBION
1. Seland Newydd
2. Cymru
3. Seland Newydd
4. Cymru
5. Cymru
6. Seland Newydd
7. Cymru