CPS: Rhybudd am doriadau

  • Cyhoeddwyd
CPS

Gallai tocio cyllideb Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) arwain at fwy o achosion o gamweinyddu cyfiawnder, yn ôl un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

Dywed Jonathan Elystan Rees, cynrychiolydd Cymdeithas y Bar Troseddol yng Nghymru, bod erlynwyr y Goron yn "gweithredu gydag un fraich wedi ei chlymu y tu ôl i`w cefnau" yn sgil toriadau'r llywodraeth.

Yn ôl Siobhan Blake, dirprwy brif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Rwy'n hyderus bod gennym bobl broffesiynol gyda sgiliau uchel sy'n ymroddedig i'r gwaith y maen nhw'n ei wneud."

Gwadodd honiadau bod rhai achosion nad oedd yn cael eu craffu'n iawn gan y CPS, ond ychwanegodd: "Rydym yn gweithio mewn lle ble mae hyd yn oed un camgymeriad yn un camgymeriad yn ormod."

'Saga'

Daw'r feirniadaeth wedi i sawl achos troseddol amlwg yng Nghymru ddod i ben gyda gwaith Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cael y bai.

Mae'n cynnwys achos yn erbyn dwy nyrs oedd yn wynebu cyhuddiad o esgeuluso cleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y 10 cyhuddiad yn eu herbyn eu gollwng yn Hydref 2015 wedi i`r llys glywed nad oedd cofnod meddygol cyfrifiadurol yn ddibynadwy.

Cafodd achos yn erbyn tri o swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili ei ddileu nifer o weithiau cyn i gyhuddiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, yn ymwneud â chodiadau cyflog cyfrinachol roedden nhw yn honedig wedi eu derbyn, gael eu gollwng gan farnwr yn Llys y Goron Bryste fis Hydref 2015.

Roedd Barnwr mewn gwrandawiadau cynt wedi beirniadu cyfreithwyr yr erlyniad am beidio paratoi yn ddigonol.

Mae aelod seneddol Llafur Caerffili, Wayne David, wedi dweud bod yna gyfres o gamgymeriadau cyfreithiol a methiannau wedi arwain at yr hyn mae`n ei ddisgrifio fel "saga".

'Gwasanaeth salach'

Mae cyllideb y CPS yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 25% ers 2010, gyda nifer y staff wedi gostwng o 2,400.

Yn ôl Michael Straen, sy`n gyfreithiwr yng ngogledd Cymru, mae e wedi gweld gwahaniaeth wrth fynd i Lys y Goron.

"Mae 'di wynebu toriadau enfawr ac mae 'na lai o unigolion yn gweithio 'na, mae 'na lai o bres yn cael ei wario 'na, ac mae'r gwasanaeth 'da chi'n gael ganddo fo yn salach," meddai.

"Yn aml iawn, mae rhywun yn gweld problemau dirfawr yn codi. Mae 'na achosion lle mae 'na ddogfennau i fod i gael eu cyflwyno, bod 'na gamau fod i gael eu cyflwyno, bod 'na gamau fod i gael eu cymryd, a does 'na'm byd fel hyn yn digwydd jyst oherwydd bod yr unigolion ddim yna, y staff yna gan y gwasanaeth i gyflawni be maen nhw angen ei wneud."

Corff Annibynnol?

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, wedi rhybuddio bod yna gyfnod anodd yn wynebu'r system gyfiawnder troseddol.

Mae 'na doriadau ac adrefnu wedi bod gan y Llywodraeth, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn wynebu galwadau i fod yn fwy chwim ac effeithlon wrth ymdrin ag achosion.

"Mae 'na broblemau yn y system yn gyffredinol, achos mae pob rhan o'r system wedi colli arian, wedi colli pobl sydd yn gallu gwneud y gwaith, wedi colli gwybodaeth. A mae hwn yn wneud yr holl beth yn 'fragile' i ddweud y gwir," meddai.

Mae Mr Michael wedi galw am gorff annibynnol i ymchwilio achosion lle mae cwestiynau am berfformiad y Gwasanaeth, fyddai'n debyg i rôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd o swyddfa'r Twrne Cyffredinol bod Arolygaeth Annibynnol Gwasanaeth Erlyn y Goron yn bodoli'n barod i arolygu gwaith y CPS ac asiantaethau eraill.

Mae`n ychwanegu bod cyflwyno Cynllun Hawl Adolygiad Dioddefwyr wedi gwneud hi`n haws i ddioddefwyr ofyn am ail edrych ar benderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dwyn cyhuddiadau yn erbyn rhywun sy'n cael ei amau o drosedd, neu i ddod ag achos troseddol i ben.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Rydym yn gwrthod yr honiad bod toriadau i gyllidebau wedi cael effaith ar berfformiad Gwasanaeth Llys y Goron.

"Mae eu setliad ariannol yn amddiffyn y gwasanaethau craidd gan sicrhau bod ganddyn nhw'r adnoddau sydd ei angen i barhau i fynd i'r afael â throsedd yn effeithiol ac yn effeithlon.

"Maen nhw hefyd wedi sicrhau bod 80% o bobl yn cael eu ffeindio'n euog tra hefyd yn gwneud arbedion ac rydym yn disgwyl hynny i barhau."