Sefyllfa Ysgol Gymraeg Casnewydd yn 'llanast'

  • Cyhoeddwyd
ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o gynllun yr adeiladau newydd

Mae pennaeth ysgol uwchradd yng Nghasnewydd wedi beirniadu'r ffordd y gwnaeth y cyngor ddelio â'r broses gynllunio er mwyn adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn ddinas.

Fe ddisgrifiodd Jon Wilson, pennaeth Ysgol Uwchradd Dyffryn, y sefyllfa fel "llanast" ar ôl i gynghorwyr wrthod rhoi caniatâd cynllunio i'r cais.

Roedd ei ysgol fod i rannu'r safle gyda'r ysgol uwchradd Gymraeg newydd, nes i bwyllgor cynllunio'r cyngor bleidleisio yn erbyn y datblygiad ddydd Mercher.

Yn ôl Mr Wilson, pennaeth yr ysgol ers 13 o flynyddoedd, does gan ei ddisgyblion "bron ddim ar ôl" wedi'r penderfyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Wilson yn feirniadol o'r broses

Yn rhan o'r ysgol Gymraeg newydd, roedd Ysgol Uwchradd Dyffryn fod i gael adeilad tri llawr newydd.

Ond mae Mr Wilson ar ddeall na fydd hynny bellach yn digwydd.

Dywedodd hefyd mai'r ysgol sydd â'r "adeiladau gwaethaf" yng Nghasnewydd a bod ei ddisgyblion, rhai o ardaloedd difreintiedig, wedi cael addewid o rai newydd "dro ar ôl tro".

Bydd rhieni plant Ysgol Uwchradd Dyffryn yn cyfarfod nos Iau i drafod oblygiadau penderfyniad y cynghorwyr.