Tân Port Talbot wedi ei ddiffodd
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi llwyddo i ddiffodd tân yng ngwaith dur Port Talbot.
Daeth yr adroddiadau cyntaf am y digwyddiad am 08:02 fore Iau.
Cafodd chwech o griwiau eu hanfon o Bort Talbot, Castell-nedd a Threforys.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y tân.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Dywedodd llefarydd ar ran Tata y bydd y gwaith wedi ailddechrau yn ôl ei arfer.
"Mae ymchwiliadau cynnar yn awgrymu mai mellten oedd yn gyfrifol."