Gallai gwahardd anifeiliaid syrcas 'arwain y ffordd'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi dweud eu bod yn gobeithio y gall Cymru "arwain y ffordd" wrth wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ar os ddylai anifeiliaid fel llewod ac eliffantod gael eu defnyddio ar gyfer perfformiadau.
Mae ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yn gobeithio pe bai Cymru yn cyflwyno gwaharddiad, byddai'n rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflwyno un hefyd.
Ond mae rhai ASau Ceidwadol wedi dadlau bod lles anifeiliaid eisoes yn rhan o'r ddeddfwriaeth.
Mae ASau yn San Steffan wedi bod yn dadlau am flynyddoedd i wahardd anifeiliaid mewn syrcasau a'i pheidio.
Bydd adolygiad annibynnol ar ddefnydd anifeiliaid mewn perfformiadau, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn dod i ben ymhen ychydig wythnosau.
Dywedodd Chris Draper o elusen Born Free Foundation wrth Radio Wales: "Mae'n rhaid i rywun sefyll i fyny dros yr anifeiliaid yma ac rwy'n amau'n gryf pe bai Cymru'n arwain y ffordd, efallai y bydd Yr Alban yn dilyn ac wedyn gallai roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i gwblhau'r gwaharddiad ym Mhrydain."
Yn ôl y dirprwy weinidog amaeth, Rebecca Evans, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn "nifer o geisiadau i ystyried gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sy'n ymweld â Chymru".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2015