Tabledi gwrth-iselder yn cael eu rhoi yn rhy hawdd?
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr iechyd meddwl wedi dweud wrth raglen BBC Radio Cymru Post Cyntaf fod doctoriaid yn gwneud cam a chleifion trwy fod yn rhy barod i roi tabledi gwrth-iselder.
Mae'r athro seiciatryddol David Healy yn pryderu bod tabledi gwrth-iselder yn cael eu dosbarthu gan Feddygon Teulu'n rhy hawdd.
"Y dyddiau yma pan mae pobl yn mynd at eu doctor, maen nhw'n gobeithio cael tabled i wella haint ac maen nhw'n cael gwybod na dydyn ni ddim yn rhoi antibiotigau, mae'r rhain yn dabledi cymhleth, mi allai pethau fynd o'i le...
"Ond gyda thabledi gwrth-iselder- mae'r gwrthwyneb yn wir. Mae'r rhain yn dabledi hyd oed yn fwy cymhleth sydd yn debygol o achosi mwy o niwed.
"Ond mae pobl yn aml yn ffeindio eu bod nhw'n gallu mynd mewn ddim wir yn meddwl y dylen nhw gael tabledi ond yn darganfod bod doctoriaid bron a bod yn gwthio'r tabledi arnyn nhw."
Mae David Healy yn teimlo y dylai meddygon teulu fynnu fwy o wybodaeth gan y diwydiant fferyllol ynglŷn â thabledi gwrth-iselder ac oherwydd hynny bod doctoriaid ddim yn gwneud cyfiawnder gyda'u cleifion.
"Os ydych chi'n gofyn pwy sydd yn gwneud cam gyda phobl dw i'n meddwl bod e'n ddoctoriaid fel fi...Os ydw i'n rhoi tabled gwrth-iselder er enghraifft ac mae pethau yn mynd o'i le, mi allai wastad feio hynny ar y salwch yn hytrach na'r tabled neu unrhyw beth dw i wedi gwneud.
"Ond mi ydyn ni yn cael ein talu'n dda ac mi fyddech chi yn disgwyl ein bod ni yn gallu gwrthsefyll ychydig o bwysau gan y diwydiant os ydyn ni yn dweud, 'Arhoswch am eiliad, mi ydyn ni eisiau'r data iawn ar y tabledi yma'- ond dydyn ni ddim wedi gwneud hynny."
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law Post Cyntaf yn dangos bod y defnydd o gyffuriau gwrth-iselder yng Nghymru wedi cynyddu dros 8% yn 2014-2015.
Mae'r adroddiad gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicolegefyd yn dangos bod defnydd o'r tabledi gwrth-iselder wedi cynyddu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda'r cynnydd mwyaf yn ardal Betsi Cadwaladr.
Mae Radio Cymru hefyd wedi siarad gyda chlaf oedd eisiau aros yn ddienw.
'Gwthio cyffuriau arna i'
"O'n i'n teimlo bach yn isel a ddim llawer o hwylia arna i. Wedyn es i at y meddyg teuluol a gofyn tybed a fysa yn bosib i fi siarad efo rhywun am y ffordd o'n i'n teimlo. O'n i'n meddwl fysa siarad efo rhywun yn benodol yn helpu fi i fi gael dallt pam o'n i'n teimlo fel hyn.
"Mewn mater o ryw 5-10 munud gesh i gynnig cyffuriau. O'n i ddim isio hynny o gwbl- dim dyna pam esh i yna o gwbl i gael cyffuriau. Ond on i'n teimlo bod y doctor yn pwshio nhw ac yn gwthio nhw arna i. O'n i ddim yn hapus o gwbl."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, eu bod yn disgwyl i feddygon teulu asesu "beth yw`r ffordd orau i drin eu cleifion, yn seiliedig ar eu anghenion a`u hanes meddygol".
Ychwanegwyd bod canllawiau NICE ar iselder yn argymell y gallai ymyrraeth seicogymdeithasol gael ei ystyried fel ffordd arall o drin iselder heb roi presgripsiwn tabledi gwrth-iselder.