Cost trafnidiaeth bws myfyrwyr i gynyddu yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgol

Mae cynllun dadleuol i gynyddu cost trafnidiaeth bws i fyfyrwyr dros 16 oed yng Ngwynedd wedi ei gymeradwyo gan gynghorwyr.

O fis Medi ymlaen bydd rhaid i fyfyrwyr chweched ddosbarth a cholegau dalu £100 y tymor am y gwasanaeth.

Ar hyn o bryd, mae'r mwyafrif yn talu £60 y tymor.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae dwy ran o dair o wir gost y gwasanaeth yn dod o gymhorthdal gan yr awdurdod, a does dim gorfodaeth statudol i ddarparu trafnidiaeth i ddisgyblion sydd dros 16 oed.

Roedd myfyrwyr o Goleg Meirion Dwyfor wedi gwrthwynebu'r cynllun, ond dywedodd y cyngor bod y prisiau wedi aros ar yr un lefel ers pum mlynedd cyn y cynnydd yma.

Nawr mae'r Cyngor am sefydlu fforwm i fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor yn dilyn cwynion gan rai am y gwasanaeth.