John Cale yn cyhoeddi ei fod am gyfansoddi yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
![John Cale: "Rwy'n dal i gael fy ysbrydoli..."](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F891/production/_88333636_0844f5a2-ef25-40c6-bd25-b4b810b98d85.jpg)
Mae cyn-aelod o'r Velvet Underground, John Cale, wedi dweud wrth BBC Radio Cymru ei fod yn bwriadu dechrau cyfansoddi yn y Gymraeg.
Mewn cyfweliad ar raglen C2 Huw Stephens, sy'n cael ei darlledu nos Lun, dywedodd Cale fod ganddo syniad am gân yn ei famiaith yn barod.
"Dwi'n dal eisiau gweithio yn y Gymraeg," meddai. "Mi neith hi gymryd sbel i mi gael fy mhen rownd hynny, ond rwy'n benderfynol o'i wneud e.
"Mae gen i syniad am ddeialog rhwng mam a'i mab gyda chôr yn y cefndir. Mae'r gân yn egluro'r berthynas rhwng y ddau a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw."
Mae Cale, 73, hefyd yn trafod ail-gyhoeddi ei albwm arloesol 'Music for a New Society (1982)', ei fagwraeth yng ngorllewin Cymru, ac yn hel atgofion am y diweddar Lou Reed a David Bowie.
Yn wreiddiol o ardal Garnant, Sir Gaerfyrddin, aeth Cale yn ei flaen i astudio cyfansoddi yng ngholeg Tanglewood yn Massachussets cyn symud i Efrog Newydd a dod i gysylltiad gyda Le Monte Young, un o hoelion wyth y symudiad avant garde.
Trwy'r diwylliant celfyddydol tanddaearol daeth i gysylltiad â Lou Reed a ffurfio'r Velvet Underground.
![velvets](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/120E6/production/_88385937_p03bqyym.jpg)
Gwnaeth John Cale (ail o'r chwith) ei enw yn y byd cerddorol gyda The Velvet Underground
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Gallwch glywed cyfweliad llawn Huw Stephens a John Cale ar C2, BBC Radio Cymru, 29 Chwefror, 19:00.