Protestio yn erbyn ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech

  • Cyhoeddwyd
Protest Llangennech

Mae rhai o rieni Llangennech yn Sir Gaerfyrddin wedi dod at ei gilydd i wrthdystio'n erbyn cynlluniau posib y Cyngor Sir i newid statws yr ysgol gynradd o un ddwyieithog i un cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â dyfodol yr ysgol - a'r argymhelliad sy'n cael ei ffafrio gan swyddogion addysg yw ysgol cyfrwng Cymraeg i blant 3-11 oed.

Dywed Michaela Beddows, mam i bedwar, y bydd hi a nifer o rieni yn cynnal gwrthdystiad heddychlon yn y pentref ar gyrion Llanelli yn erbyn unrhyw newid.

Dywed Ms Beddows y bydd newid y statws yn golygu na fydd addysg cyfrwng Saesneg ar gael yn y pentref o Ionawr 2017 ymlaen.

"O ganlyniad bydd y plant sydd am gael addysg cyfrwng Saesneg yn gorfod gadael y pentref," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gynradd Llangennech yn un ddwyieithog ar hyn o bryd

Ond mae Mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dweud fod newid statws yr ysgol yn gam gwbl naturiol.

Yn ôl Heini Gruffudd, swyddog ymchwil RhAG, mae'r ysgol wedi Cymreigio yn raddol.

"Ma'r ffrwd Saesneg wedi lleihau erbyn hyn ac mae'n llai na'r un Gymraeg, mae'r sir yn dilyn polisi o droi ysgolion mewn ardaloedd dwyieithog yn rhai cyfrwng Cymraeg," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Mae rhieni yn gweld manteision a dyma'r unig ffordd rydyn ni'n gwybod sy'n gallu sicrhau fod pob un o'r plant yn rhugl yn y ddwy iaith, does yna'r un model arall sydd wedi bod mor llwyddiannus.

"Ma' yna leiafrif bob tro yn gwrthwynebu ond dyma'r unig ffordd o sicrhau plant dwyieithog, y ffordd arall rydyn ni'n amddifadu nhw o gyfle i gyfrannu yn llawn i gymuned fel Llangennech.

"I'r rhai sy'n parhau i wrthwynebu mae yna ysgolion eraill o fewn ychydig filltiroedd."

Dim penderfyniad terfynol

Dywed Ms Beddows nad yw hi'n wrth-Gymraeg ond byddai'r newid yn golygu y byddai'n rhaid i blant "sy'n dymuno addysg cyfrwng Saesneg deithio o'r pentref i ysgolion cyfagos".

Dywed y cyngor fod y broses ymgynghori yn dod i ben ar 18 Mawrth, ac nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud.

Ar hyn o bryd, mae yna ddwy ysgol yn Llangennech, ysgol fabanod ac ysgol iau, ac mae ffrwd Cymraeg a ffrwd Saesneg o fewn y ddwy ysgol.

Byddai unrhyw newidiadau i'r sefyllfa bresennol yn dod i rym yn 2017.

Yn ôl swyddogion addysg, mae yna fanteision i ysgol cyfrwng Cymraeg.

"Byddai hyn yn cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a bydd yn sicrhau fod dwyieithrwydd yn cynyddu yn ardal Llangennech," meddai adroddiad sydd wedi ei baratoi ar gyfer cynghorwyr."