Ap Geiriadur Prifysgol Cymru yn cael ei lansio

  • Cyhoeddwyd
Geiriadur Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru/Getty Images

Llai na dwy flynedd ers lansio ar-lein am y tro cyntaf, mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedi lansio ap ar gyfer ffonau clyfar a thabledi.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Ebrill 2015 y byddai'r ap - sef ap Geiriadur GPC - yn un o 10 prosiect fyddai'n derbyn arian i hybu defnydd o'r Gymraeg drwy dechnoleg a chyfryngau digidol.

Mae'r ap yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, ac yn wahanol i'r fersiwn ar-lein, mae modd lawrlwytho holl gynnwys y geiriadur i'ch dyfais fel nad oes angen bod wedi cysylltu â'r we i'w ddefnyddio.

Cafodd y fersiwn ar-lein o'r geiriadur ei lansio ym mis Mehefin 2014.

'Adnodd poblogaidd'

Bydd yr ap hefyd yn cynnwys dwy gêm syml - un i gael hyd i air cudd a'r llall i ddatrys anagram.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae Geiriadur Prifysgol Cymru eisoes wedi bod yn un o'r safonau aur ar gyfer yr iaith Gymraeg ac, fel rwy'n gwybod o brofiad, mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio'n barhaus gan siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.

"Rwy'n falch iawn, felly, ein bod wedi gallu cefnogi'r Brifysgol er mwyn rhoi'r adnodd cynhwysfawr, poblogaidd a hynod ddefnyddiol hwn mewn cyfrwng newydd ar gyfer cynulleidfa newydd."

Bydd yr ap yn cael ei lansio'n swyddogol am 11:00 yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.