Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein: 'Carreg filltir bwysig'

  • Cyhoeddwyd
Geiriadur Prifysgol Cymru ar-leinFfynhonnell y llun, Geiriadur Prifysgol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cyflwyno geirfa'r iaith Gymraeg o'r testunau Hen Gymraeg cynharaf hyd at iaith bob dydd heddiw.

Gydag wyth miliwn o eiriau mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cael ei gyhoeddi yn gyflawn ar-lein ddydd Iau.

Mae'n "garreg filltir bwysig sydd yr un mor arwyddocaol â chyhoeddi'n llawn y cyfrolau printiedig", medd y golygydd, Andrew Hawke.

Gobaith Mr Hawke yw y bydd y fersiwn ar-lein yn "llawer mwy cyfeillgar i'r defnyddwyr o'i gymharu â'r cyfrolau print sy'n medru edrych braidd yn arswydus i'r sawl sy'n anghyfarwydd â nhw".

Mae'n hyderus y bydd yn llawer haws i bobl ddod o hyd i ystyr gair neu ymadrodd, cenedl gair, y ffurfiau lluosog, y diffiniad ohono, pa eiriau eraill sy'n golygu'r un peth, ac ati.

Mae pedair cyfrol brintiedig Geiriadur Prifysgol Cymru yn costio £350 i'w prynu, ond fe fydd y geiriadur ar-lein ar gael yn rhad ac am ddim.

Ffynhonnell y llun, GPC

Tarddiad y geiriau

Mae'n cyflwyno geirfa'r iaith Gymraeg o'r testunau Hen Gymraeg cynharaf hyd at iaith bob dydd heddiw, gan olrhain dyddiad cynharaf pob gair ac enghraifft o'r gair ar hyd yr oesoedd gan ddangos, yn aml, sut mae'r gair wedi newid ei ystyr.

Ond rhybuddiodd y golygydd bod y geiriadur wedi ei anelu at siaradwyr Cymraeg a dysgwyr rhugl, gan ei fod yn nodi pa eiriau sydd wedi cael eu defnyddio, a pha bryd, yn hytrach na dweud pa un sy'n gywir ac yn safonol.

Er enghraifft, o deipio horse i mewn, fe gewch - cafall, ceffyl, eddystr, gorwyddfarch, hors, march, planc, ponffil, seri.

Un o'r gwahaniaethau ymarferol i staff y geiriadur yw y bydd modd ychwanegu geiriau newydd yn ôl y galw yn lle gorfod dilyn trefn yr wyddor, a medru newid hen gofnodion yn syth.

Eisoes cafodd geirau fel, 'cyfrifiadur', 'carafanio', 'clustffon', 'cymuned', a 'cyfathrebu' eu hychwanegu.

Ers cyrraedd y llythyren 'M' yn nechrau'r 80au mae'r geiriadur wedi cael ei olygu'n gyfrifiadurol. Methiant oedd ymdrech i sganio y gwaith blaenorol gan fod "llawer gormod o wallau" meddai Mr Hawke, felly bu'n rhaid ail-deipio'r cwbl.

Y geiriadur mewn ffigyrau

  • 3,949 o dudalennau mewn 4 cyfrol

  • 105,586 o ddangoseiriau

  • 56,188 o groesgyfeiriadau

  • 84,596 o darddiadau

  • 348,657 o ddyfyniadau dyddiedig

  • 323,311 o ddiffiniadau/cyfystyron Cymraeg

  • 290,001 o gyfystron/diffiniadau Saesneg

  • 35,292 o gyfuniadau

  • 7,308,222 o eiriau o destun

'Croesawu ymateb'

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cael llawer mwy o adborth wedi i'r geiriadur fynd ar-lein, boed trwy wefan y geiriadur,, dolen allanol Twitter @geiriadur, dolen allanol neu e-bost geiriadur@aber.ac.uk.

"Mae 'na ddefnydd helaeth o farciau cwestiwn yn y geiriadur, lle mae 'na ryw broblem gyda'r testun. Bydd modd i ni wneud newidiadau neu ychwanegu geiriau newydd yn fuan, lle o'r blaen efallai y byddai wedi cymryd degawdau i wneud cywiriad.

"Byddwn ni'n croesawu ymateb - mae pob cyfraniad yn werthfawr i ni."

Bob dydd mae staff y geiriadur yn trydar 'gair y dydd' ac mae nifer y dilynwyr bellach dros 1,500. Mae dros 1,000 o bobl yn dilyn y Geiriadur ar Facebook., dolen allanol

Felly, beth am brofi'ch gwybodaeth chi o eiriau Cymraeg trwy roi cynnig ar gwis BBC Cymru Fyw sydd wedi ei seilio ar gynnwys Geiriadur Prifysgol Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol