Cwmni Aston Martin i greu 750 o swyddi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Aston Martin DBXFfynhonnell y llun, Aston Martin
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y car yn rhedeg ar drydan, ac mae disgwyl iddo gostio £160,000

Mae Aston Martin wedi cyhoeddi y bydd yn adeiladu ei gar newydd yn ne Cymru, gan greu 750 o swyddi.

Bydd y DBX crossover yn cael ei wneud yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cymryd dwy flynedd i sicrhau'r cytundeb wrth iddyn nhw wynebu cystadleuaeth gan 20 o safleoedd ar draws y byd.

Bydd y cyhoeddiad swyddogol yn cael ei wneud mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Fe fydd y datblygiad yn cynnwys academi sgiliau, "fydd yn gwneud Sain Tathan a Bro Morgannwg yn ganolfan rhagoriaeth."

'Perthynas hirdymor'

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y ffatri yn 2017, gyda'r gwaith cynhyrchu i ddechrau tair blynedd yn ddiweddarach.

Bydd gwerth y cytundeb yn y cannoedd o filiynau o bunnau, ond dyw Llywodraeth Cymru heb fanylu ar faint o gefnogaeth sy'n dod ganddyn nhw.

Disgrifiad,

Steffan Messenger sydd wedi bod yn edrych ar sefyllfa'r diwydiant moduro yng Nghymru

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones mai dyma ddechrau perthynas hirdymor rhwng Cymru ag Aston Martin.

"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i adeiladu sylfaen gref i'n perthynas a sicrhau dyfodol llewyrchus a gwerthfawr ar gyfer y cwmni eiconig yma a'i weithlu yng Nghymru," meddai.

Bydd y car yn rhedeg ar drydan, ac mae disgwyl iddo gostio £160,000.

"Mae penderfyniad Aston Martin i fuddsoddi yn ei ffatri yn Sain Tathan yn foment arwyddocaol yn hanes y sector foduro yng Nghymru," meddai'r Gweinidog Economi, Edwina Hart.

"Mae gennym ni fwy 'na 150 o gwmnïau sy'n cynhyrchu cyfarpar i'r diwydiant, ond dyma'r tro cyntaf ers bron i 50 mlynedd y byddan ni'n gweld cerbydau'n dod oddi ar y llinell gynhyrchu yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Prif weithredwr Aston Martin, Andy Palmer (chwith) yn ysgwyd llaw'r prif weinidog Carwyn Jones

Disgrifiad o’r llun,

Y car newydd tu allan i adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays

Ffynhonnell y llun, Welsh Government
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y car yn cael ei adeiladu ar y safle yma yn Sain Tathan