Ifor ap Glyn yw'r Bardd Cenedlaethol newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ifor ap Glyn yn darllen un o'i gerddi

Yr ysgrifennwr, cyflwynydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu, Ifor ap Glyn, fydd bardd cenedlaethol newydd Cymru.

Bydd y bardd - yn enedigol o Lundain ond sy'n byw yng Nghaernarfon erbyn hyn - yn cychwyn fis Mai, gan olynu Gillian Clarke sydd wedi bod yn ei swydd ers 2008.

Mr ap Glyn fydd y pedwerydd bardd cenedlaethol i wneud y gwaith di-dâl ers i'r rôl gael ei chreu yn 2005.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod cael ei ddewis yn "andros o fraint ac anrhydedd".

Cafodd Mr ap Glyn ei eni yn Llundain i rieni Cymraeg. Mae wedi ennill y goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Fardd Plant Cymru rhwng 2008 a 2009.

Yn ogystal ag ysgrifennu barddoniaeth, mae wedi ennill gwobr BAFTA Cymru fel cynhyrchydd a chyflwynydd teledu.

line break

BEIRDD CENEDLAETHOL CYMRU

  • 2005 Gwyneth Lewis

  • 2006 Gwyn Thomas

  • 2008 Gillian Clarke

  • 2016 Ifor ap Glyn

line break

Dywedodd Mr ap Glyn mai "prif bwrpas y rôl ydy bod yn genhadwr dros lenyddiaeth Cymru".

Ychwanegodd: "Bydd disgwyl i fi'n benna' gynrychioli llenyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith mewn digwyddiadau ac ar lwyfannau yng Nghymru - ar draws Cymru a thu hwnt.

"Ar un lefel mae o jest yn estyniad o be' mae rhywun yn gwneud fel 'sgwennwr. Mae bob llenor isio siarad efo cynulleidfa. Mae ganddo fo rywbeth i ddweud neu mae ganddi hi rywbeth i ddweud. Estyniad ar hynny ydy'r peth.

"Wrth gwrs mae 'na falle mwy o bwysau ar rywun o deimlo bod 'na fwy o lygaid yn mynd i fod arna' chdi, yn disgwyl i chdi faglu!".

Fe osododd Cymru Fyw her i Ifor ap Glyn i ateb sawl cwestiwn cyflym. Tybed wnaeth o faglu?

Disgrifiad,

Ifor ap Glyn yn ateb cwestiynau cyflym Cymru Fyw

line break

MWY AM Y RÔL

  • Y nod yw bod yn llais i farddoniaeth Cymru ar draws y llwyfan rhyngwladol;

  • Comisiynau i ysgrifennu cerddi newydd adeg digwyddiadau coffa;

  • Dim cyflog ond mi all y bardd ddisgwyl ffi am rai darnau o waith;

  • Mae'r rôl yn cael ei rhoi bob yn ail i ysgrifenwyr Cymraeg a Saesneg;

  • Gillian Clarke yw'r bardd sydd wedi gwneud y gwaith am y cyfnod hiraf.

line break

Mae Gillian Clarke wedi croesawu'r newyddion. "Mae e'n Gymro go iawn," meddai. "Mae hefyd yn rhyng-genedlaetholwr. 'Dw i'n meddwl y bydd yn gallu mynegi Cymru i'r byd a dyna 'da ni eisiau.

"Mae ganddo'r holl gymwysterau i fod yn fardd cenedlaethol da."

Gŵyl y Gelli ym mis Mai fydd digwyddiad swyddogol cyntaf Ifor ap Glyn fel Bardd Cenedlaethol, ble bydd yn perfformio gyda Gillian Clarke. Bydd wedyn yn cychwyn ar daith ar draws Prydain yn yr hydref.