Ni, y tri a'r ci
- Cyhoeddwyd
Gall magu plant bach fod yn waith caled ond mae'n rhoi cymaint o foddhad ar yr un pryd. Mae'r actor Rhys ap William a'i wraig Lucy wedi cael tri o blant mewn cwta 19 mis, ac yn ein diweddara' o erthyglau ar Cymru Fyw sy'n edrych ar fywyd teuluol, mae Rhys yn rhannu profiadau ei deulu...
Dwi'n cofio'r union eiliad pan wnes i ddarganfod ein bod ni am gael efeilliaid.
O'n i ar daith gyda sioe 'Crouch Touch Pause Engage' yng Nghaerwysg, ac o'n i wrthi'n byta cinio pan ges i'r alwad. Fuodd bron i fi dagu ar daten! Doedd Magi, y ferch, ddim yn flwydd oed ar y pryd ag o'dd twins ar y ffordd. O'dd hi'n sioc! Wnes i ddim ystyried y peth yn iawn tan y mis ola'. Diawch ma hwn rili yn digwydd.
Cwrddodd Lucy a fi yn 2012 a phriodi yn 2013. Daeth Magi'r ferch i'r byd yn 2014 a ganwyd yr efeilliaid, Esme a Henri yn 2015, felly ma'r bedair blynedd dwetha' wedi bod yn brysur iawn!"
'Bywyd yn boncyrs'
Ma' bywyd wedi newid yn anhygoel i ni'n dau. Ro'n ni'n eitha annibynnol, a nawr ma' tri o blant bach yn dibynnu arnon ni. Ma' cael tri o blant o dan 19 mis yn eitha' boncyrs ac ma' diwrnod cyffredin gyda'r tri yn gallu bod yn waith caled, yn enwedig os ydych chi ar eich pen eich hunan. Ma'n rhaid cyfadde' bod Lucy 'di 'neud hyn yn fwy na fi, ac ma' hi yn 'neud yn anhygoel o dda.
Dihuno, bwydo, newid cewyn, bwydo, cysgu, llefen (fi nid y plant) newid cewyn, bwydo, gwely... dyna drefn y dydd. Trial neud digon gyda Magi, sy'n 19 mis oed a rhoi sylw i Esme a Henri yr efeilliaid bach. Mynd â Billie'r ci am dro, heb sôn am fwyta a thrio cael sgwrs gall gyda'n gilydd. Ma' Magi'n mynd i créche am dri diwrnod yr wythnos, sy'n rhoi bach o hoe i ni gyd.
Ond cwsg? Beth yw hwnna? Ni mor lwcus bod Magi'n cysgu drwy'r nos neu mi fydde bywyd yn hunllefus! Mae bwydo a newid dau fabi yn cymryd awr, ac maen nhw'n deffro bob tair i bedair awr.
'Haws i brynu lori'
Mae double buggy gyda ni a sling neu buggy bach i Magi, bysai'n haws i brynu lori! Mi fydd rhaid newid y car hefyd, bws mini amdani! Mae gadael y tŷ yn cymryd cynllunio ac amser. Dydy gadael i fynd i'r siop gornel ddim cweit fel odd e, ma' hynny'n sicr, a rydyn ni wedi mynd yn syth adre' ar ôl cyrraedd y siopau hefyd ar sawl achlysur!
Ma' bywyd yn galed ar hyn o bryd, ond ma' cael y tri yn agos at ei gilydd yn siŵr o 'neud pethe'n haws gydag amser. Bydd y tri yn ffrindiau gobeithio ac yn chwarae gyda'i gilydd. Yn rhoi bach o amser i ni gael paned o de neu wydred o prosecco.
Amser i weithio?
Gan fy mod i'n actor, ma' eisie edrych ar swyddi sydd yn fy nghadw i yng Nghaerdydd erbyn hyn. O'n i bant am bum mis pan o'dd Magi'n fach ond bydde hwnna'n amhosib nawr. Falle bod eisie i fi newid gyrfa, yn ôl Lucy!
Dwi'n lwcus i fod yn actor sydd hefyd yn ymwneud lot â chwaraeon. Rwy'n gyhoeddwr yn Stadiwm Principality adeg gemau rygbi, yn sylwebu ac yn gwneud gwaith troslais. Mae'n rhaid os ydw i am aros yng Nghymru a bod yn hyblyg. Rwy' hefyd yn edrych mla'n at ail gyfres S4C, 'Byw Celwydd', ym mis Mehefin.
Mae Lucy'n ymdopi'n arbennig o dda. Sut mae hi'n 'neud e sai'n siwr! Ma' bywyd yn gallu bod yn anodd ac yn ddi-drefn a dweud y lleia' yn enwedig pan ma'r tri plentyn angen sylw ar yr un pryd, ond wedyn ma' cyfnodau anhygoel yn neud i ni anghofio'r amseroedd caled ac ma' pethe'n dod yn fwy normal eto.
Tîm Jones
Rhaid gweithio fel tîm. Tîm Jones. Ma' gyda ni dri o blant iach, gorjys, llawn hwyl, sydd yn gwneud i ni wenu bob dydd. Ni mor lwcus ac mae'n rhaid i ni gofio hynny. Ond dim mwy o blant plîs!
Fel wedodd sawl un wrthai, bydd rhaid rhoi clwm ynddi!