TVR: 'Gallai safle cynhyrchu gael ei leoli yn y de'

  • Cyhoeddwyd
A man driving a TVR TusconFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae TVR, y cwmni sy'n cynhyrchu ceir cyflym, wedi dweud y gallai ei safle newydd i gynhyrchu ceir gael ei leoli yn ne Cymru.

Fe wnaeth y cwmni gadarnhau ei fod yn edrych ar safle yn yr ardal - un o dri safle yn y DU.

Daw'r newyddion wythnos ar ôl i Aston Martin gyhoeddi y byddan yn cynhyrchu eu car moethus newydd yn Sain Ta Bro Morgannwg.

Dywedodd TVR, sydd a'i wreiddiau yn Blackpool, ei fod yn gobeithio gwneud "penderfyniad o fewn yr wythnosau nesa".

Dyw'r cwmni heb ddatgelu manylion am leoliad y safle posib yn y de.