Miloedd yn cynnig cymorth i fyfyrwraig

  • Cyhoeddwyd
ApelFfynhonnell y llun, Anthony Nolan

Mae miloedd o bobl wedi cynnig cymorth yn dilyn apêl fyd eang am wirfoddolwyr celloedd bonyn i fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd sydd angen dod o hyd i driniaeth yn y ddau fis nesaf.

Mae Vithiya Alphons, 24 oed, yn dioddef o fath arbennig o lewcemia, ond mae'r dasg o ddod o hyd i unigolyn i rannu eu celloedd bonyn ar gyfer ei thriniaeth yn anoddach o achos ei bod o gefndir Sri Lankaidd, ac nid oes llawer o bobl o dde Asia ar y gofrestr celloedd bonyn.

Fe apeliodd am gymorth ar wefanau cymdeithasol, a dywed yr elusen Anthony Nolan, bod 5,600 o bobl wedi cynnig eu cymorth yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

"Mae effaith apêl Vithiya wedi bod yn anhygoel," meddai Ann O'Leary o'r elusen.

"Ond mae'n rhaid i Vithiya ddod o hyd i wirfoddolwr ac mae pobl tebyg iddi hi ar draws y byd yn dal i aros. Rhaid i ni barhau i gynyddu'r amrywiaeth o fewn y gofrestr fel ein bod yn gallu dod o hyd i ateb i bawb."

Ffynhonnell y llun, Anthony Nolan

Cafodd Miss Alphons glywed bod ganddi fath ymosodol o ganser y gwaed wedi iddi fynd yn sal ychydig ddyddiau ar ôl iddi ddychwelyd i'r brifysgol i gwblhau ei blwyddyn olaf yno.

Fe aeth am driniaeth cemotherapi yng Nghaerdydd cyn teimlo'n ddigon iach i gael ei throsglwyddo i ysbyty yn Llundain, lle mae ei chartref.

Wedi'r trydydd cwrs o gemotherapi, roedd hi'n teimlo'n llawer gwell, ond fe ddangosodd profion pellach bod y lewcemia yn dal i fod yn ei gwaed a dywedodd meddygon wrthi mai'r driniaeth orau iddi fyddai i dderbyn celloedd bonyn newydd o fewn y deufis nesaf.

Wrth siarad gydag Asian Network y BBC, dywedodd Miss Alphons ei bod yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth.

"Fe hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cofrestru hyd yn hyn, ac fe fyddwn yn gofyn i bobl barhau i gofrestru achos mae modd i chi achub fy mywyd ac achub bywyd cymaint o bobl eraill."