Rheini milwr yn y Bannau yn galw am ddisodli cyfraith
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni Craig Roberts, un o'r tri milwr fu farw yn ystod ymarferiad SAS yn y Bannau Brycheiniog, yn dweud bod angen cael gwared ar y gyfraith sy'n golygu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael ei heithrio rhag cael ei herlid.
Maen nhw wedi ymateb am y tro cyntaf ers i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) gyhoeddi wythnos diwethaf ei bod nhw yn mynd i roi Cerydd y Goron i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Dyma'r weithred lymaf all y Gweithgor ei chyflawni yn erbyn un o sefydliadau'r Goron.
Fis Gorffennaf daeth cwest i'r casgliad fod esgeulustod wedi bod yn ffactor ym marwolaethau Craig Roberts, Edward Maher a James Dunsby.
Yn ôl yr HSE, oni bai am y gyfraith mi fyddai'r Weinyddiaeth wedi wynebu achos o ddynladdiad corfforaethol.
Mae Kelvin a Margaret Roberts o Fae Penrhyn ger Llandudno wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen i agwedd y lluoedd newid a bod yr "hierarchaeth" o fewn y lluoedd arbennig yn hunanfodlon.
Tra eu bod nhw'n derbyn bod y broses o ddewis y milwyr yn gorfod bod yn anodd maen nhw'n dweud y dylai cynllunio cywir a dulliau cywir fod yn eu lle.
"Pe bydden nhw wedi bod yn eu lle y diwrnod ofnadwy hynny, byddai Craig, Eddy a James yn dal yn fyw, " medden nhw.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud nad ydyn nhw eisiau gwneud sylw.