Refferendwm UE: Grwp Cymreig o blaid aros yn cyfarfod
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp trawsbleidiol sydd â'r nod o gadw Cymru a'r Deyrnas Unedig o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf.
Cyn-reolwr BBC Cymru, Geraint Talfarn Davies, yw cadeirydd 'Cymru'n Gryfach yn Ewrop' ac mae'n cynnwys aelodau etholedig o sawl plaid.
Yn ôl y grŵp, mae aelodaeth Prydain o'r undeb yn cadw'r wlad yn "saffach, yn gryfach ac yn fwy diogel".
Mae amryw o ffigyrau cyhoeddus eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, yn eu plith, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies.
'Sawl bygythiad'
Ymhlith y rhai sy'n aelodau o grwp 'Cymru'n Gryfach yn Ewrop' mae yr AS Ceidwadol, Craig Williams, AS Llafur, Wayne David, a'r ACau Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru.
Dywedodd Mr Davies: "Mae Cymru'n Gryfach yn Ewrop am wneud pob peth o fewn ei allu i sicrhau fod y pethau sydd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru gyda chymorth yr UE - yr economi Gymreig, yr amgylchedd, yr amodau gwaith a diogelwch ei phobl - yn cael eu diogelu ar gyfer y cenedlaethau nesa'."
Mewn byd "cynyddol beryglus", mae Mr Davies yn credu fod 28 o wledydd yr undeb yn wynebu "sawl bygythiad".
Dyma'r "foment olaf" y dylai Prydain ystyried gadael, ychwanegodd.
"Byddwn angen help miloedd o bobl Cymru, yn ogystal â nifer o sefydliadau gwahanol er mwyn mynd â'r neges yma i bob stepen drws," meddai Mr Davies.
"Gyda gwaith caled, rwy'n sicr y bydd realaeth a greddf pobl Cymru yn sicrhau'r canlyniad cywir."
Ymdriniaeth BBC Cymru
Yn y cyfamser mae Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfarn Davies - sy'n fab i Geraint Talfan Davies - wedi cyhoeddi y bydd yn ymwrthod o unrhyw ran o ymdriniaeth y BBC ag ymgyrch y refferendwm ar unwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru bod hynny'n digwydd "er mwyn osgoi risg o unrhyw ganfyddiad o wrthdaro buddiannau".
Bydd Pennaeth Cynhyrchu BBC Cymru, Clare Hudson, yn cymryd y cyfrifoldeb ar lefel cyfarwyddwr am allbwn y refferendwm.