Camdrin plant: 'Cynnydd enfawr' medd elusen

  • Cyhoeddwyd
swingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y troseddau rhyw yn erbyn plant sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru wedi codi 21% y llynedd, meddai elusen flaenllaw.

Yn ôl ffigyrau gan NSPCC Cymru, cofnododd yr heddlu 1,753 o droseddau yn 2014/15 o'i gymharu â 1,446 o droseddau rhyw yn erbyn plant yn 2013/14. Mae hynny yn gynnydd o bron i bump trosedd y diwrnod ar gyfartaledd.

Heddlu Gwent welodd y cynnydd mwyaf o 226 i 389 yn 2014/15; cynnydd o 72%.

Roedd 322 o'r plant dan sylw o dan 10 oed, gydag o leiaf 68 yn rhy ifanc i fynd i'r ysgol.

Fe ddaeth y wybodaeth i law`r NSPCC yn dilyn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae`r ystadegau yn awgrymu bod nifer y troseddau gafodd eu cofnodi yn erbyn merched (1,235) bump gwaith yn fwy na`r troseddau yn erbyn bechgyn (205).

Dim ond ar gyfer 41 allan o 389 o'r troseddau a gofnodwyd gan Heddlu Gwent oedd y llu yn gallu ddarparu gwybodaeth ynghylch rhyw y plentyn.

'Peri gofid'

Mae'r ffigyrau yn dangos "darlun pryderus" o ba mor "eang" yw'r troseddau, yn ôl pennaeth NSPCC Cymru.

"Mae'r cynnydd enfawr ar draws Cymru yn peri gofid a byddwn yn ceisio deall pam bod troseddau yng Ngwent wedi treblu mewn blwyddyn," meddai Des Mannion.

"Tra bod y drefn o gofnodi'r drosedd hon wedi cyfrannu at gynnydd, mae'n rhaid canmol lluoedd yr heddlu ac rydym yn croesawu unrhyw hwb mewn hyder sy'n cynorthwyo'r dioddefwyr i ddod ymlaen.

"Er mai achosion proffil uchel sy'n tra arglwyddiaethu'r penawdau, mae'n rhaid peidio anghofio mai perthynas, ffrind teuluol neu rywun mae nhw'n adnabod sy'n gyfrifol am tua 90% o droseddau rhyw yn erbyn plant."

Y ffigyrau ar gyfer gweddill lluoedd Cymru oedd:

  • Gogledd Cymru - 314 (13/14) i 398 (14/15) - cynnydd o 26.7%

  • Dyfed Powys - 299 (13/14) i 328 (14/15) - cynnydd o 9.7%

  • De Cymru - 607 (13/14) 637 (14/15) - cynnydd o 4.9%