Prinder o ferched mewn gwyddoniaeth, yn ôl adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o ferched mewn swyddi gwyddonol gan fod "prinder dybryd" yn atal twf economaidd Cymru at y dyfodol, medd adroddiad newydd.
Mae'r ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru yn ceisio canfod ffyrdd o annog merched i swyddi STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
Mae'r adroddiad yn dweud y gallai 600 o swyddi academaidd STEM gwag gael eu llenwi drwy gael mwy o ferched mewn gyrfaoedd perthnasol.
Ar draws y DU byddai gwyddonwyr benywaidd ychwanegol yn werth £2 biliwn i'r economi.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Rhyngwladol Merched.
Daeth i'r casgliad hefyd mai ychydig iawn o ferched oedd yn astudio pynciau STEM ar ôl 16 oed, ac mae'n awgrymu recriwtio mwy o ferched i'r gweithlu fel graddedigion, drwy brentisiaethau a llwybrau eraill.
Canfyddiad arall oedd bod merched oedd â gradd mewn pwnc STEM yn llai tebyg o fynd i yrfa yn y maes yna na dynion.
Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad oedd:
Bod angen athrawon gyda sgiliau gwyddonol i ysbrydoli disgyblion;
Bod angen cysylltiadau cryfach rhwng addysg a busnesau;
Herio stereoteipiau rhyw;
Strategaethau i helpu merched i ddychwelyd i'r gwaith wedi cyfnod mamolaeth;
Cynyddu nifer y merched ar bob lefel o fywyd academaidd, diwydiant a masnach i 50:50 erbyn 2020;
Diddymu'r bwlch rhwng cyflogau dynion a merched.
Dywedodd yr Athro Julie Williams, prif ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru: "Mae prinder merched mewn swyddi STEM yn bwysig gan eu bod yn colli cyfleoedd bywyd ac ar nifer o swyddi llewyrchus.
"Ond yn fwy eang mae'n cyfyngu ar y dalent sydd ar gael i'r gwyddorau a busnesau, ac mae felly'n cyfyngu ar gyfoeth economaidd Cymru i'r dyfodol."