Cynnydd o 30% mewn tabledi gwrth-iselder i blant
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gynnydd o 30% wedi bod yn nifer y bobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cael presgripsiwn ar gyfer tabledi gwrth iselder mewn cyfnod o ddeg mlynedd yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r BBC.
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn dadansoddi data gan bron i 360,000 o blant 6-18 oed rhwng 2003 a 2013.
Yn 2003 mi ddaeth yna rybudd gan adran iechyd Llywodraeth San Steffan na ddylid rhoi tabledi gwrth iselder i blant.
Mi aeth Llywodraeth Cymru ati yn sgil yr ymchwil i anfon cylchlythyr yn dweud y dylai dulliau eraill gael eu trio i drin plant i ddechrau.
Canllawiau NICE
Mi ddaeth y 30% o gynnydd er bod yna gwymp sylweddol yn y blynyddoedd yn dilyn 2003-4 a hynny am fod yna rybuddion iechyd ynglŷn â pherygl hunan laddiad ymhlith pobl ifanc.
Mi oedd yr adroddiad, sydd heb gael ei gyhoeddi, hefyd yn dangos bod y cyffur citalopram ar gael yn rheolaidd ar bresgripsiwn er nad oes yna drwydded i ddefnyddio'r cyffur ar gyfer plant.
Mi ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at arbenigwyr iechyd gan ddweud mai dim ond fluoxetine (prozac) sydd wedi ei brofi i fod yn effeithiol ar gyfer pobl ifanc.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod disgwyl i feddygon teulu i ddefnyddio eu crebwyll meddygol wrth benderfynu ar driniaeth ac i ddefnyddio canllawiau NICE. Mae'r canllawiau hynny yn argymell ymyrraeth seicolegol yn hytrach na thabledi gwrth-iselder.
Roedd yr adroddiad yn dweud efallai bod y ffigyrau yn adlewyrchu bod mwy o bobl yn medru cael triniaeth, ac ymgais i helpu plant mwy ifanc i ddelio gyda'u problemau iechyd meddwl.
Ond mi oedd y ddogfen hefyd yn dweud bod yna bosibilrwydd y gallai hyn adlewyrchu tueddiad i roi meddyginiaeth pan fod cyfle i gael triniaeth seicolegol yn brin neu ddim ar gael.
Mi ddioddefodd George Watkins o Gaerdydd sgil effeithiau ar ôl cael tabledi gwrth iselder pan oedd yn ei arddegau.
"Mi fydden i yn agor fy llygaid i yn y bore, dw i'n dal i gael hunllef am hyn, yn codi bob bore a syllu ar y nenfwd a meddwl ai hwn yw'r diwrnod pan fydden ni yn teimlo bod fy mhen i'n hollol glir?
"Mi oedd e yn apwyntiad oedd wedi ei frysio, pum munud, 'Disgrifia sut wyt ti'n teimlo'.
Mi o'n i dal ar y feddyginiaeth ges i pan o'n i yn 14 neu 15, Tachwedd y llynedd pan o'n i..yn 20."