Pryder am ddyfodol 'ansicr' Amgueddfa Lloyd George

  • Cyhoeddwyd
lloyd georgeFfynhonnell y llun, AP

Mae ansicrwydd am ddyfodol amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ar ôl i Gyngor Gwynedd dorri eu cyllideb.

Dywedodd cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George, Emrys Williams ei fod yn "flin a chwerw" am y penderfyniad.

Bydd yr amgueddfa yn colli £27,000 y flwyddyn o fis Ebrill 2017 ymlaen, fel rhan o doriadau gwerth £4.6m gan y cyngor sir.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn edrych ar opsiynau fyddai'n galluogi'r amgueddfa i barhau ar agor.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae'n gofnod pwysig i Brydain gyfan a thu hwnt. Dyma amgueddfa sy'n nodi cyfraniad yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog.

"Mae'n gam gwael i'w wneud er mwyn arbed dim ond £27,000. Mi fyddai dod o hyd i bartner er mwyn rhedeg yr amgueddfa bron iawn yn amhosib."

Fe gafodd yr atyniad ei sefydlu yn 1947, ddwy flynedd wedi marwolaeth David Lloyd George. Cafodd y tir ei adael gan ei ail wraig, Frances, er mwyn nodi cyfraniad ei gŵr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn achos i'r cyngor sir ond eu bod yn ystyried adroddiad ar amgueddfeydd sy'n adrodd bod sefydliadau o'u bath yn arbennig o fregus yng nghyd-destun toriadau ariannol.