Cytundeb newydd yn creu 50 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni General Dynamics UK wedi ennill cytundeb gwerth £135 miliwn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fydd yn creu 50 o swyddi ym mhencadlys y cwmni yn Oakdale, Caerffili.
Bydd y cytundeb ar gyfer offer cyfathrebu i'r lluoedd arfog hefyd yn sicrhau dyfodol 20 o swyddi eraill.
Nod y gwaith fydd uwchraddio'r system BCIP5.6 ar offer cyfathrebu Bowman - sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd - i gael ei uwchraddio a'i wella.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon: "Bydd y cytundeb yma yn creu nifer o swyddi gyda sgiliau uchel yng Nghymru ac yn cynorthwyo ein lluoedd arfog i fod yn ddiogel am flynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd y Brigadydd Richard Spencer, pennaeth systemau cyfathrebu yr MoD: "Mae'r cytundeb yma'n golygu gosod offer newydd ac uwchraddio meddalwedd ar draws system Bowman er mwyn ei wneud yn haws i'w ddefnyddio.
"Mae'n newyddion da i'r lluoedd arfog ac yn sicrhau y bydd ganddyn nhw'r offer gorau posib am y dyfodol rhagweladwy."
Mae system Bowman wedi cael ei ddefnyddio ers 2005 ac wedi cael ei ddatblygu gan General Dynamics UK i'w osod mewn 15,000 o gerbydau'r fyddin ynghyd â phencadlysoedd, llongau a hofrenyddion.
Fe fydd yr offer newydd ar gael i'w ddefnyddio ar ddechrau 2018.