Delilah: 'Amser am gân arall'
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddadl sy'n dal i rygnu 'mlaen. A ddylai cefnogwyr rygbi Cymru fod yn canu'r gân 'Delilah'?
Fe ddaeth y ddadl yn bwnc llosg pan gwestiynodd Dafydd Iwan a ddylai cân am lofruddiaeth dynes gael ei chydnabod fel un o'n hanthemau yn ein stadiwm genedlaethol mewn blog yn 2014.
Yn fwy diweddar mae'r Aelod Seneddol Chris Bryant hefyd wedi galw ar gefnogwyr i beidio ei chanu cyn gemau rhyngwladol.
Dywedodd y gwleidydd yn ystod trafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ar drais yn erbyn menywod ei bod "yn gân am lofruddiaeth putain ac mae yna filoedd o ganeuon eraill ar gael".
Mae tystiolaeth, meddai Chris Bryant, fod cynnydd mewn trais domestig yn ystod penwythnosau gemau rygbi rhyngwladol.
Ond beth am y ddynes wnaeth gyd-gyfansoddi'r gân 'nôl yn 1968 - oes rheswm pam na ddylai 'Delilah' gael ei chanu yn ei barn hi?
'Amser am gân arall'
Dywedodd Sylvan Mason wrth Cymru Fyw nad yw hi'n cytuno bod angen gwahardd y gân ond mae yn credu ei bod yn bryd i gefnogwyr rygbi feddwl am fabwysiadu cân arall.
"Mi fuasai'n well petaen nhw'n dod o hyd i gân arall," meddai.
"Dydw i ddim yn teimlo y dylai gael ei gwahardd.
"Fe fyddwn yn fodlon pe baen nhw'n dod o hyd i gân arall. Mae Delilah wedi gwneud yn dda iawn heb y rygbi, ac fe fydd hi'n parhau felly," meddai gan ychwanegu y bydd yn cefnogi Cymru yn Twickenham ddydd Sadwrn!
Perthyn i'w chyfnod
Cafodd Delilah ei hysgrifennu yn 1968 ar y cyd rhwng Les Reed, Barry Mason (gŵr cyntaf Sylvan) a Sylvan.
Daeth yn anthem i gefnogwyr rygbi Cymru wedi i Tom Jones fynd â hi i Rif 2 yn y siartiau ac fe enillodd y gân wobr Ivor Novello.
Ond mae hi'n perthyn i'w chyfnod meddai Sylvan: "Y dyddiau hynny roedd yn rhaid i chi gael drama er mwyn i bobl wrando ar gân.
"Wnaethon ni ddim meddwl llawer am y peth.
"Mae'r amser wedi newid. Heddiw fe fyddwn i'n fwy tebygol o sôn am deimladau ond jyst stori oedd hi," ychwanegodd gan ddatgelu mai 'Aye, Aye, Aye Delilah' oedd y teitl gwreiddiol.
Dywedodd Sylvan ei bod yn cytuno gyda barn Dafydd Iwan fod y gân dreisgar yn ddewis rhyfedd i'w chanu rhwng y ddau emyn Calon Lân a Chwm Rhondda ac y dylen nhw chwilio am rywbeth arall, ond y byddai'n "dipyn o dasg" ei chymryd oddi wrth gefnogwyr rygbi.
'Erchylltra trais domestig'
Ond dydi Sylvan ddim yn cytuno gyda Chris Bryant fod â wnelo'r gân â chynnydd mewn trais yn y cartref.
"Dwi'n credu bod cymaint o bethau eraill y dylen nhw edrych arnyn nhw - y gemau fideos, y llif o fideos a'r lluniau o bensiynwyr yn cael eu taro. Lle ydyn ni'n stopio os ydyn ni'n dechrau gwahardd popeth?
"Rydyn ni i gyd yn cael ein magu ar straeon fel Eira Wen a'r Hugan Fach Goch. Dydw i ddim yn credu fod hynny wedi effeithio arna' i."
Ond mae Chris Bryant yn dweud fod rhaid ystyried y gân yn y cyd-destun fod troseddau treisgar ar gynnydd a bod yn rhaid inni "edrych yn ddwfn yn ein heneidiau a gofyn pam fod erchylltra trais domestig yn parhau" gan ychwanegu fod alcohol, ac agweddau tuag at bod yn "ddyn go iawn" yn rhan fawr o'r rheswm.
"Dydw i ddim yn cytuno gyda Chris Bryant fod cynnydd mewn trais yn y cartref pan maen nhw'n canu'r gân," meddai Sylvan Mason.
"Dydw i ddim yn credu y gall cân ddau funud ddylanwadu gymaint â hynny ar drais."