Ymgyrch yn darganfod tybaco anghyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
BacoFfynhonnell y llun, PA

Cafodd bron i ddwy dunnell o dybaco anghyfreithlon ei feddiannu yng Nghymru yn ystod haf 2015, o ganlyniad i brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o "Operation Fetch", roedd awdurdodau lleol yn gweithio gyda chŵn synhwyro i ddod o hyd i'r tybaco.

Gweithiodd swyddogion Safonau Masnach gyda swyddogion cŵn synhwyro tybaco ac, o ganlyniad i hyn cafwyd hyd i bron i 500,000 o sigaréts anghyfreithlon, bron i ddwy dunnell o dybaco rholio anghyfreithlon - sef digon i wneud 2,000,000 o sigaréts rholio medd y llywodraeth.

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwy'n bryderus iawn ynghylch tybaco anghyfreithlon oherwydd ei fod yn fforddiadwy ac yn hawdd cael gafael arno. Mae hynny'n bygwth iechyd plant ac yn ei gwneud yn llawer haws iddynt gael gafael ar dybaco. Mae hefyd yn golygu nad yw'r pris yn ffactor sy'n annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi.

"Nid trosedd bitw 'mo hon. Mae'r ymddygiad troseddol yn amddifadu'r cyhoedd o refeniw pwysig sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau iechyd hanfodol, gan gynnwys mynd i'r afael ag effaith niweidiol tybaco ei hun. Ond mae ei effeithiau'n ymestyn llawer pellach na hynny."

'Diogelu iechyd'

Ychwanegodd Mark Drakeford: "Rydyn ni'n benderfynol ein bod am wneud pob ymdrech i roi diwedd ar y fasnach anghyfreithlon hon a diogelu iechyd y cyhoedd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol pawb a fu'n rhan o 'Operation Fetch' a'u hymdrechion i roi diwedd ar y fasnach tybaco anghyfreithlon."

Dywedodd Matthew Cridland, cadeirydd Penaethiaid Safonau Masnach Cymru: "Mae ffigyrau'n dangos bod 15% o'r tybaco sy'n cael ei werthu yng Nghymru yn anghyfreithlon. Mae hynny'n gyfwerth ag un miliwn o sigaréts sy'n cael eu hysmygu yng Nghymru bob dydd. Mae'r ffaith fod tybaco anghyfreithlon mor gyffredin ar y lefel hon yn bygwth iechyd drwy danseilio'r holl fesurau sy'n ceisio lleihau'r defnydd o dybaco ac atal plant rhag cael gafael arno.

"Oherwydd hyn, mae mynd i'r afael â phroblem tybaco anghyfreithlon yn flaenoriaeth bwysig i Safonau Masnach yng Nghymru. Mae canlyniadau 'Operation Fetch' yn galonogol iawn ac yn dangos ymrwymiad Safonau Masnach i'r her hon.

"Rydyn ni eisiau gweithio gyda phawb sy'n ymwneud â rheoli tybaco i roi sylw i'r broblem o gyflenwi tybaco anghyfreithlon a hefyd i'r galw amdano. Bydd Safonau Masnach yn parhau i geisio dal y rheini sy'n dosbarthu ac yn cyflenwi'r cynnyrch hwn."