Y Cob, T. Rex a DJ Plummy

  • Cyhoeddwyd
Brian Davies (Bill recordiau'r Cob) gyda blwch casglu arian i achub sine,ma'r Coliseum tu fas i'r siop ym Mhort
Disgrifiad o’r llun,

Brian Davies tu allan i'r siop eiconig ym Mhorthmadog

Daeth y newyddion trist yr wythnos hon am farwolaeth Brian Davies - neu 'Bill' - un o sylfaenwyr siop Recordiau'r Cob ym Mhorthmadog.

Efallai i nifer ohonoch chi basio'r siop ar eich taith o'r de i'r gogledd, ond wyddoch chi ar un adeg fod Marc Bolan o T. Rex a John Peel yn ymwelwyr rheolaidd?

Roedd y Cob hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cerddoriaeth bop i luoedd arfog Prydain ar Ynysoedd y Falkland. Ond sut daeth y siop eiconig i fodolaeth? Roedd Dafydd Wyn Jones yno ar y dechrau.

Y 'grotto'

"Yn 1958 mi 'naeth teulu Brian agor caffi ym Mhorthmadog," meddai Dafydd. "Roedd 'na ddwy ran iddo fo - caffi cyffredin ar gyfer ymwelwyr yn y blaen, ond yn y cefn roedd yna grotto efo jukebox yno.

"Doedd 'na ddim llawr o jukeboxes i'w cael yng nghefn gwlad Cymru ar y pryd ac roedd hwn yn beiriant o flaen ei amser.

"Yn y cyfnod hwnnw roedd nifer o bobl Port yn gweithio ar y môr, ac yn dod nôl o America gyda recordiau nad oedd ar gael ym Mhrydain ac roedd rheiny yn aml yn cael eu rhoi yn y jukebox, felly mi gafodd y caffi enw da am gerddoriaeth."

Bargen!

Dechreuodd Dafydd weithio yn y caffi yn 1966 ac mae'n cofio un diwrnod tawel wedi i'r tymor gwyliau ddod i ben.

"Aeth Brian a finnau trwy doman o hen recordiau oedd wedi cael eu tynnu o'r jukebox a phenderfynu rhoi hysbyseb yng nghylchgrawn yr NME i weld os byddai unrhyw un â diddordeb yn eu prynu.

"O fewn tridiau gawson ni alwad ffôn gan ddyn o'r Eidal yn cynnig prynu'r cyfan... a 'da ni'n sôn am ryw 3,000 neu 4,000 o recordiau.

"Roedd Brian yn dipyn o entrepeneur. Mi darodd o fargen efo cwmni o Aberystwyth oedd yn llogi jukeboxes i gaffis dros Gymru gan brynu'r hen recordiau sengl oedd yn cael eu tynnu allan o'r peiriannau.

"Wedi hynny, rhywsut neu gilydd, dechreuon ni brynu a gwerthu LPs. Roedd LPs yn eithaf drud ar y pryd felly mi ddechreuon ni drefnu cyfnewid recordiau ail-law fel taliad yn erbyn pris record newydd.

"'Fallai fyddai rhywun yn dod â thair record hir i mewn, ac yn dibynnu beth oedden nhw, yn medru eu newid am LP newydd.

"Roedden ni hefyd wedi dechrau gwerthu trwy wasanaeth mail order. Tua'r un pryd dechreuodd cwmni Virgin wneud rhywbeth tebyg, ond roedden nhw'n arbenigo mewn recordiau newydd tra roedden ni'n canolbwyntio ar y farchnad ail-law."

'Mecca' cerddorol

Un gafodd ei ddylanwadu'n fawr gan Brian a'i freuddwyd oedd y DJ Mici Plwm, neu DJ Plummy fel roedd yn galw ei hun ar y pryd.

"Dwi'n cofio'r Cob pan roedd o'n gaffi ac yn fan cyfarfod i bobl ifanc," meddai. "Dechreuodd Bill werthu hen recordiau sengl o'r jukebox am swllt a chwech (7½c) ac mae'n siŵr ei fod o wedi gweld bwlch oherwydd nad oedd yna siop recordiau yn yr ardal. Yn amlwg, cerddoriaeth oedd gwir ddiddordeb 'Bill' ac ymhen dim, caeodd y caffi ac agorodd Recordiau'r Cob.

"Roedd y siop yn bwysig iawn i mi achos dyna lle ddechreuais i fel DJ, nid yn y siop, ond yng nghlwb 'Hernando Bill's Cellar Club' o dan y siop.

"Fi oedd y DJ yn y clwb, a gan ddefnyddio jukebox y siop uwchben fel y decks a mynd â blodau o Bortmeirion i addurno'r clwb yn null flowerpower y cyfnod, trwy hynny 'naethon ni greu mecca cerddorol yn Port."

Disgrifiad o’r llun,

Disgo teithiol Mici Plwm

Aeth Mici yn ei flaen i gynnal disgos Cymraeg ac mae'n ddyledus i Recordiau'r Cob am roi hwb i'r fenter yn enwedig gan bod yna dorreth o gerddoriaeth nad oedd y Cymry wedi ei chlywed o'r blaen:

"Doedd dim digon o beat ar y rhan fwya' o ganeuon Hogia Llandegai... doedd dim digon i wneud y goleuadau fflachio!

"Felly mi f'aswn i'n llenwi'r bylchau oedd mewn cerddoriaeth Gymraeg ar y pryd gydag imports instrumental fel Booker T and the MG's... pethau fyddai pobl erioed wedi eu clywed a rhain oedd yn gwneud y disgos yn unigryw.

"Does dim dwywaith, oherwydd yr holl bethau hyn, roedd y siop a'r ardal filltiroedd ar y blaen i gymharu â nifer fawr o ardaloedd tebyg yng Ngogledd Cymru."

Busnes yn ffynnu

Mae Dafydd Wyn Jones yn cofio'r dyddiau cynhyrfus ar ôl i'r siop agor yn swyddogol:

"Ar y dechrau, yn 1970 roedd pedwar ohonom ni'n gweithio yno ac erbyn diwedd y 70au roedd 30 o staff - yn bennaf oherwydd y busnes mail order.

"Roedd llawer o bobl yn y gwledydd comiwnyddol yn methu â chael gafael yn y gerddoriaeth orllewinol gyfoes felly roedd miloedd o gwsmeriaid gan Cob yn Rwsia, Gwlad Pwyl ac Iwgoslafia.

"Erbyn 1971, roedd y busnes yn allforio dros 7,500 o recordiau yr wythnos, i 50 o wledydd dros y byd i gyd ac i 25,000 o gwsmeriaid."

Ffynhonnell y llun, Richard Hocknell

Mae'r siop yn dal ar agor heddiw, er gwaethaf y newidiadau mawr sydd wedi digwydd yn y byd gwerthu recordiau. Mae'r busnes mail order lawer yn llai nag oedd yn ystod y 70au a'r 80au.

Ond llwyddodd Brian Davies i ddatblygu busnes yng nghefn gwlad Cymru ddaeth yn adnabyddus ar draws y byd. Roedd 'na ambell i wyneb cyfarwydd yn ymweld yn gyson hefyd yn ôl Dafydd Wyn Jones:

"Roedd Marc Bolan a John Peel yn galw'n aml, ac roedd Miloš Forman, cyfarwyddwr y ffilm 'One Flew Over The Cuckoo's Nest', yn ymwelydd rheolaidd. Byddai'n prynu tua 50 LP ac yn eu hallforio nhw i'w gartref yn Tsiecoslofacia.

"Doedd dim cynllun gan Brian i dyfu'r busnes, esblygu yn naturiol wnaeth o, ond roedd Brian yn ddigon craff i sylweddoli arwyddocâd digwyddiadau unigol a manteisio ar hynny."