Gary Doherty: 'Strwythur Cymru'n well na Lloegr'

  • Cyhoeddwyd
Gary Doherty

Mae prif weithredwr newydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi dweud bod gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru strwythur gwell nac yn Lloegr.

Dechreuodd Gary Doherty ar ei swydd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddiwedd Chwefror, ar ôl gadael Ymddiriedolaeth y GIG yn Blackpool.

Dywedodd Mr Doherty bod llai o rannau gwahanol i'r system yng Nghymru, ac yn Lloegr mae cyrff gwahanol yn cystadlu gyda'i gilydd yn hytrach na gweithio gyda'i gilydd.

Gadawodd y prif weithredwr blaenorol y swydd ar ôl i'r bwrdd gael ei roi dan fesurau arbennig.

'Mantais' yng Nghymru

Yn ei gyfweliad cyntaf ers dechrau'r swydd, dywedodd Mr Doherty: "Mae meddygon teulu, nyrsys cymunedol a staff eraill i gyd yn yr un corff.

"Yn ôl yn Lloegr, byddai'r bobl yna yn aml mewn cyrff gwahanol. Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n helpu.

Ychwanegodd: "Y ffordd y mae'r cyrff yna yn cydweithio gyda chytundebau ac ati, dwi ddim yn meddwl bod hynny'n ddefnyddiol iawn yn Lloegr.

"Roedd modd llwyddo os oedd perthnasau da, ond yma, dwi'n meddwl bod gyda ni fantais o ran y drefn."

Dywedodd hefyd bod gwella amseroedd aros mewn adrannau gofal brys yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn symud allan o fesurau arbennig.