Prif Weithredwr newydd i fwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Gary Doherty wedi cael ei benodi'n Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Fe ddaw'r penodiad yn dilyn cyhoeddiad y dirprwy weinidog iechyd Vaughan Gething ym mis Hydref bod y cyn-brif weithredwr, Trevor Purt, yn camu o'r neilltu.
Cafodd Mr Purt ei atal o'r swydd yn gynharach eleni yn dilyn adroddiad beirniadol am waith y bwrdd iechyd.
Mae'r bwrdd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth gan y llywodraeth ers pedwar mis bellach. Daeth adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ychwanegodd Mr Gething y byddai'r mesurau arbennig yn debyg o barhau am ddwy flynedd arall.
'Hyderus'
Mae Mr Doherty ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr Ysbytai Addysgu Ymddiriedolaeth GIG Blackpool. Cyn hyn, roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr Ysbyty Addysgu Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Prifysgol Wirral.
Mae wedi gweithio yn y GIG am 20 mlynedd ac mae ganddo enw da am ddarparu gwelliannau a gwasanaethau clinigol, gan arwain ar raglenni arbed costau ar raddfeydd mawr a gwella profiadau cleifion a staff.
Dywedodd Dr Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Rwy'n hyderus y bydd (Mr Doherty) yn adeiladau ar y gwelliannau mae Simon Dean wedi eu cyflawni mewn ymateb i'r Bwrdd gael ei roi mewn Mesurau Arbennig, a bydd yn sicrhau y bydd yn adennill ffydd a hyder ein cleifion, staff a'r cyhoedd.
"Mae Gary yn fedrus a phrofiadol iawn ac wedi arwain rhaglen helaeth o welliannau yn Blackpool gyda llwyddiant. Mae ganddo'r sgiliau a'r nodweddion rydym yn chwilio amdanynt ac sydd mor bwysig mewn Prif Weithredwr, ac o ran y Bwrdd, rwy'n ei groesawu'n gynnes i Ogledd Cymru."
'Balch'
Dywedodd Gary Doherty:
"Rwy'n falch iawn o gael y swydd yn dilyn proses anodd. Tra ein bod yn wynebu nifer o heriau, rwy'n gwybod ein bod gennym nifer o gryfderau i adeiladu arnynt. Bydd yn fraint cael y cyfle hwn i arwain ein sefydliad i fodloni anghenion cleifion yn well yng Ngogledd Cymru.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd i symud rhai o'r gwelliannau sydd eisoes ar y gweill ymlaen dan Fesurau Arbennig.
"Fy mhrif ffocws fydd gwrando ar leisiau cleifion, staff, y cyhoedd a phartneriaid i wneud gwelliannau'n gyflym tra hefyd yn adeiladu gweledigaeth hir dymor ar gyfer y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2015
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2015